Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)

Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)

Land-based Animal

Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)

Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i weithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.

DYSGWYR:
ID: 40711

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

I ddilyn y cwrs hwn bydd angen diddordeb brwd mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid a dysgu hanfodion gofalu am amrywiaeth o wahanol anifeiliaid.

Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli ar brif gampws y coleg ac yng Nghanolfan Dysgu John Burns, Llwynhelyg. Ceir cludiant i ac o Ganolfan Dysgu John Burns ar fws gwennol o brif gampws y Coleg. Bydd dysgwyr yn treulio’r diwrnod cyfan ar y safle.

I ddilyn y cwrs hwn bydd angen i chi fod yn ofalgar, yn gyfrifol ac yn gallu gweithio’n unigol ac fel rhan o grŵp.

  • Un TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu Fathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Byddwch yn treulio amser yn dysgu am iechyd a lles anifeiliaid yn ogystal â sut i baratoi a chynnal llety anifeiliaid. Byddwch yn dysgu trwy wneud tasgau ymarferol a mynychu darlithoedd ac arddangosiadau, yn ogystal â, defnyddio gwerslyfrau, cyfeirlyfrau a’r rhyngrwyd.

Unedau i’w hastudio:

  • Bod yn drefnus
  • Datblygu cynllun dilyniant personol
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc
  • Datblygu sgiliau cynnal a chadw ystadau
  • Cynnal iechyd anifeiliaid
  • Dod i wybod am y sector diwydiannau’r tir
  • Gofalu am anifeiliaid a’u bwydo
  • Symud anifeiliaid a lletya
  • Tyfu planhigion
  • Dyfrol

Fel rhan o’r cwrs byddwch hefyd yn datblygu sgiliau datrys problemau, meddwl personol, cyfathrebu a gweithio gydag eraill sy’n sgiliau trosglwyddadwy i ba bynnag gwrs y byddwch yn penderfynu ei ddilyn yn y dyfodol.

Mae dysgwyr hefyd yn cael tiwtorialau wedi’u hamserlennu gan eu Tiwtor Cwrs.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Gall y cwrs hwn arwain at gyfleoedd gyrfa niferus gan gynnwys: Gweithiwr Cenel, Hyfforddwr Cŵn, Trwsiwr Anifeiliaid Anwes, Triniwr Cŵn, Ceidwad Cefn Gwlad, Swyddog Lles Anifeiliaid, Gweithiwr Canolfan Gofal Anifeiliaid/Achub, Gwarchodwr Anifeiliaid Anwes, Hyfforddwr Marchogaeth, Cynorthwyydd Siop Anifeiliaid Anwes, Derbynnydd Milfeddygol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Argymhellir bod eich brechiad Tetanws ac unrhyw frechiadau priodol eraill yn gyfredol cyn dechrau gweithio gydag anifeiliaid neu yng nghefn gwlad
  • Dillad Gofal Anifeiliaid/Rheoli ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf - £20
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy anifeiliaid o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Duration:

1 flwyddyn

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/10/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close