Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol
Mae chwaraeon a ffitrwydd yn sectorau sy’n ehangu’n gyflym yn y DU gan arwain at lawer o gyfleoedd gyrfa cyffrous.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i ddamcaniaeth chwaraeon a ffitrwydd. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am fyd chwaraeon, ymarfer corff a hamdden corfforol gyda phwyslais ar yr agweddau ffitrwydd a lles. Mae’r rhaglen yn darparu amrywiaeth dda o bynciau ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol mewn ffitrwydd, maetheg chwaraeon, anafiadau chwaraeon ac adsefydlu neu alwedigaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd. Os ydych chi’n allblyg, yn frwdfrydig, yn caru ffitrwydd a gweithgaredd corfforol ac yn mwynhau her, dyma’r cwrs i chi.
Mae gweithgareddau ymarferol yn nodwedd bwysig o’r cwrs gyda myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd a chwaraeon.
Bydd yr Academïau Chwaraeon mewn pêl-droed a rygbi ar gyfer ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd yn cael eu hastudio ochr yn ochr â’r cwrs hwn. Bydd disgwyl i bob dysgwr gymryd rhan a chyfrannu at un o’r academïau chwaraeon a drefnir gan y Coleg. Bydd y profiad o gaffael sgiliau ychwanegol, dadansoddi perfformiad a moeseg tîm yn gwella dealltwriaeth dysgwyr ymhellach o ddeinameg grŵp sydd o fudd iddynt yn eu cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Llenyddiaeth Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Dylid dangos diddordeb brwd mewn gweithgaredd corfforol a bod yn ffit yn gorfforol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- Yn ddelfrydol TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- TGAU Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon a hamdden
- Iechyd a lles mewn chwaraeon
- Datblygu sgiliau ffitrwydd
- Maeth
- Anafiadau chwaraeon
- Profi ffitrwydd
- Tylino chwaraeon swyddogaethol
- Hunangyflogaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol
- Datblygu sgiliau hyfforddwr personol
Bydd gofyn i chi fynychu tiwtorialau fel rhan o’r rhaglen hon.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Grade C or above in both
Grade D
Grade E or F
Grade G or below
Grade C or above in both
If you are studying a construction/trade course (brickwork, carpentry, electrical or plumbing):
- Essential Skills Wales (ESW) in Application of Number and Communications
All other courses:
- Wales Essential Skills Toolkit (WEST) in upskilling / Lessons in Financial Education
Grade D
- A one year GCSE resit course in required subject/s
Grade E or F
- A one or two year pre-GCSE upskilling course
Grade G or below
- A one year GCSE START upskilling course
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Portffolio o dystiolaeth
Beth alla i ei wneud nesaf?
Mae cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant chwaraeon yn cynnwys: Hyfforddwr Personol, Maethegydd, Hyfforddwr Campfa, Therapydd Chwaraeon, Hyfforddwr Ffitrwydd, Gwyddonydd Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Athro Addysg Gorfforol, Rheolwr Datblygu Pêl-droed, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol, Rheolwr Adnabod Talent, Adsefydlwr Chwaraeon, Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru , Ffisiotherapydd Chwaraeon, Dyfarnwr, Hyfforddwr Sgïo, Hyfforddwr Antur Awyr Agored, Dadansoddwr Perfformiad.
Career opportunities in the sports industry include: Personal Trainer, Nutritionist, Gym Instructor, Sports Therapist, Fitness Coach, Sports Scientist, Sport Development, PE Teacher, Football Development Manager, Community Sports Coach, Talent Identification Manager, Sport Rehabilitator, Strength and Conditioning Coach, Sports Physiotherapist, Referee, Ski Instructor, Outdoor Adventure Instructor, Performance Analyst.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
- Cit Academi Pêl-droed - £160 (os yn berthnasol)
- Cit Academi Rygbi - £120 (os yn berthnasol)
- Pecyn Academi Merched - £110 (os yn berthnasol)
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
- Bydd angen i chi dalu ffi cyfleuster o £60 bob ffitrwydd blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Citiau chwaraeon penodol (£110 - £160) yn daladwy cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 21/05/2024