Cymraeg – Ail Iaith

Cymraeg – Ail Iaith
Cymraeg Lefel-A CBAC
Mae Lefel-A Cymraeg Ail Iaith yn annog dysgwyr i astudio’r Gymraeg gyda diddordeb, mwynhad a brwdfrydedd.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Fel rhan o’r cwrs hwn byddwch yn dysgu cyfathrebu’n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig o fewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau. Byddwch hefyd yn dysgu ysgrifennu’n greadigol ac yn ffeithiol at ystod o ddibenion ochr yn ochr â dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol.
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
- Cymraeg gradd B
- Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
Byddwch yn datblygu sgiliau gwrando ac ymateb i farn eraill wrth fynegi safbwynt a dysgu sut i fynegi barn annibynnol yn hyderus, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o destunau llenyddol a ffeithiol.
Erbyn diwedd y cwrs hwn dylech allu ymateb yn Gymraeg yn eglur, mewn modd perthnasol, hyderus a strwythuredig. I grynhoi, bydd y cwrs hwn yn eich darparu â’r sgiliau i chwarae rhan briodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Bydd yr unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Ffilm a llafaredd – astudio’r ffilm Patagonia
- Asesiad di-arholiad – cwblhau tair tasg gwaith cwrs
- Y defnydd o iaith a barddoniaeth
- Drama a llafaredd
- Y Gymraeg mewn cymdeithas a thrawsieithu
- Y defnydd o iaith a’r stori fer
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) mewn uwchsgilio / Gwersi mewn Addysg Ariannol
Gradd D
Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
Gradd E neu F
Cwrs uwchsgilio am flwyddyn neu ddwy cyn TGAU
Gradd G neu is
Cwrs uwchsgilio TGAU START am flwyddyn
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Arholiad ysgrifenedig
- Arholiad llafar
- Cwblhau prosiect mawr terfynol
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ymchwilydd Academaidd, Dehonglydd, Dadansoddwr Risg Gwleidyddol, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Newyddiadurwr Darlledu, Ditectif, Swyddog Gwasanaeth Diplomyddol, Ymgynghorydd Addysg, Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Dramor, Gweithiwr Cymorth/Datblygu Rhyngwladol, Rheolwr Logisteg a Dosbarthu, Swyddog Gweithredol Marchnata, Archwiliwr Patent, Tiwtor Preifat, Rheolwr Hawliau Cyhoeddi, Gweithredwr Gwerthu, Rheolwr Taith, Cyfieithydd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Additional information
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
---|---|
Modd: | |
Lefel: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 24/08/2023