Gwasanaeth Cwsmer a Chyngor ac Arweiniad
Gwasanaeth Cwsmer a Chyngor ac Arweiniad
Mae ystod eang ac amrywiol o sefydliadau yng Nghymru sy’n cyflogi unigolion i ddarparu gwasanaethau cwsmer a chyngor ac arweiniad gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fanwerthwyr, awdurdodau lleol, gwasanaethau cyngor gyrfaoedd, sefydliadau’r sector gwirfoddol, gwasanaethau myfyrwyr, carchardai a gwasanaethau prawf, ac adrannau’r llywodraeth.
Mae’r prentisiaethau canlynol ar gael:
- Lefel 2 Gwasanaeth Cwsmer
- Lefel 3 Gwasanaeth Cwsmer
- Lefel 3 Cyngor ac Arweiniad
- Lefel 4 Cyngor ac Arweiniad
ID: WBLADVICEX
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth ac mae mynediad yn amodol ar gyfweliad.
Mae Prentisiaethau mewn Cyngor ac Arweiniad a Gwasanaeth Cwsmer yn cynnwys:
- Cymhwyster NVQ yn cyfuno gwybodaeth a chymhwysedd (a asesir yn y gweithle)
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth.
Bydd angen i’ch cyflogwr:
- Roi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
- Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
- Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi
- Cyfrannu at ymweliadau/apwyntiadau aseswyr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi a thrafod eich cynnydd
Byddwn yn gofyn i chi ddarparu copi o’r tystysgrifau canlynol:
- eich cymhwyster lefel uchaf
- os oes gennych chi TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg neu Rifedd
Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn a phennu pa gymhwyster lefel i gofrestru arno. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio asesiadau llythrennedd a rhifedd eraill, a elwir yn WEST, i asesu eich addasrwydd.
Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Os nad oes gennych gyflogwr ond yn gwirfoddoli am o leiaf 16 awr yr wythnos, yna gallwch ddal wneud cais a gallwn drafod opsiynau eraill gyda chi.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 141 neu unrhyw bryd drwy e-bost l.breckon@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- No formal entry requirements
- You will be expected to be in relevant job role
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
- Learners must be at least 16 years old
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs Lefel 2 Gwasanaeth Cwsmer ar gyfer y rhai mewn rôl sy’n cynnwys systemau cefnogi, prosesau a gwasanaethau ac yn cydnabod bod cyflogaeth mewn Gwasanaeth Cwsmer yn cynnwys ystod amrywiol o swyddogaethau, tasgau a gweithgareddau sy’n datblygu’n gyson yng ngoleuni anghenion newidiol cwsmeriaid.
Cymhwyster: City & Guilds Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid (5530-02)
Mae’r cwrs Lefel 3 Gwasanaeth Cwsmer ar gyfer y rhai sy’n gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol ac sy’n gallu defnyddio systemau’n hyblyg i ddarparu gwasanaeth da, yn gallu awgrymu gwelliannau ac sydd â sgiliau cyfathrebu da. Bydd ganddynt wybodaeth eang am beth i’w wneud, pwy i’w weld a ble i fynd i wneud pethau i’r cwsmer a bydd ganddynt ymwybyddiaeth o bwysau’r sefydliad/busnes.
Cymhwyster: City & Guilds Lefel 3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid (5530-03)
Mae’r cwrs Lefel 3 Cyngor ac Arweiniad ar gyfer y rhai mewn rôl sy’n cynnwys darparu cyngor ac arweiniad yn uniongyrchol i gleientiaid, gan adrodd i reolwyr llinell yn ogystal â gwasanaethau cysylltiedig. Gallant hefyd oruchwylio a chefnogi aelodau eraill o staff.
Cymhwyster: City & Guilds NVQ Lefel 3 mewn Cyngor ac Arweiniad (3569-03)
Mae’r cwrs Lefel 4 Diploma Cyngor ac Arweiniad ar gyfer y rhai mewn rôl sy’n cynnwys darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i gleientiaid, adrodd i uwch reolwyr, rhwydweithio â gwasanaethau cysylltiedig yn ogystal â thrafod, hyfforddi, gwerthuso a datblygu’r ddarpariaeth gwasanaeth.
Cymhwyster: Diploma NVQ Lefel 4 City & Guilds mewn Cyngor ac Arweiniad (3569-04)
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Portfolio of evidence
- Workplace evidence
- If taken as an apprenticeship then reviews with your assessor and employer will take place every 1-2 months and you will be expected to have developed your skills and knowledge between each review
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall dysgwyr symud ymlaen i’r lefel nesaf. Fe’ch gwahoddir i fynychu seremoni Raddio’r Coleg ar ôl cwblhau Lefel 4 (Prentisiaeth Uwch a chyfwerth â HNC).
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- No additional equipment required
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023