Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Cynnal a Chadw Adeiladu

Cynnal a Chadw Adeiladu

Gwaith Brics a Gwaith Saer

Ennill Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw. Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hanelu at y rheini sy’n gwneud gwaith atgyweirio ar raddfa fach mewn amrywiol grefftau yn y sector Adeiladu ar gyfer gwaith brics, addurno, plastro, plymio a gwaith coed.

Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos, mewn rôl gysylltiedig.

ID: 35388

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Adeiladu. Rydym yn cynnig prentisiaethau ar Lefel 2 yn y ddisgyblaeth hon yn unig. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad.

Mae Prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Adeiladu yn cynnwys:

  • Hyfforddiant yn y coleg un diwrnod yr wythnos
  • Cymhwyster NVQ a asesir yn y gweithle
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio – os nad oes gennych o leiaf TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg neu Rifedd, efallai y byddwn yn cynnig cwrs arall i chi yn lle Prentisiaeth. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio asesiadau llythrennedd a rhifedd eraill, a elwir yn WEST, i asesu eich addasrwydd.

I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth. Rhaid i rôl eich swydd gynnwys un neu fwy o’r llwybrau cynnal a chadw a nodir yn y wybodaeth cwrs isod:

Bydd angen i’ch cyflogwr:

  • Allu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
  • Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
  • Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
  • Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau coleg

Cyflwyno

  • Yn y coleg: Un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros 12-18 mis yn dibynnu ar eich profiad.
  • Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi ac i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.

Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • level0g
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Hyfforddiant yn y Coleg (Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw):

Yn cynnwys atgyweiriadau ar raddfa fach mewn amrywiol grefftau yn y sector Adeiladu, ar gyfer y crefftau canlynol:

  • Atgyweiriadau Adeiladau (Gwaith Brics)
  • Atgyweiriadau Peintio ac Addurno
  • Atgyweiriadau Plastro
  • Atgyweiriadau Plymio
  • Atgyweiriadau Gwaith Saer

Hyfforddiant Seiliedig ar Waith (Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Atgyweirio ac Adnewyddu Aml-fasnach Cynnal a Chadw Adeiladau):

Yn eich cyflogaeth, mae angen i chi fod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio mewn DAU o’r meysydd canlynol:

  • Gwaith Saer ac Asiedydd
  • Paentio ac Addurno
  • Teilsio
  • Plastro
  • Toi
  • Gweithrediadau Trywel

Mae’r rhain yn ofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at nifer o gyfleoedd dilyniant gyrfa yn y dyfodol.

Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 mewn un grefft fel Gwaith Saer, Gosod Brics, Plymio

Symud ymlaen i Gymhwyster Technegol Lefel 3 mewn Adeiladu, fel Dylunio a Rheoli Adeiladu

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Additional information

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close