Weldio a Ffabrigo
City & Guilds NVQ Lefel 2 mewn Gwneuthuriad a Weldio
Wedi’i anelu at wneuthurwyr, weldwyr pibellau a phlât sy’n dymuno datblygu technegau weldio arbenigol mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i unigolion arddangos a chael eu cydnabod am gymhwysedd galwedigaethol.
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cymhwyster prentisiaeth hwn wedi’i gynllunio i asesu a gwirio eich dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau o ran gallu cyflawni gweithgareddau gwneuthurio a weldio yn y diwydiant peirianneg adeiladu.
Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth mewn Weldio a Ffabrigo. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad.
Mae Prentisiaeth mewn Weldio a Ffabrigo yn cynnwys:
- Hyfforddiant yn y coleg un diwrnod yr wythnos
- Cymhwyster NVQ a asesir yn y gweithle
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio asesiadau llythrennedd a rhifedd eraill, a elwir yn WEST, i asesu eich addasrwydd.
I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth. Rhaid i rôl eich swydd gwmpasu un neu fwy o’r llwybrau cynnal a chadw a nodir yn y wybodaeth cwrs isod.
Bydd angen i’ch cyflogwr:
- Gallu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
- Rhoi dystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
- Fod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
- Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau coleg
Cyflwyno
- Yn y coleg: Un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros 12-18 mis yn dibynnu ar eich profiad.
- Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi ac i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.
Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.
Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Bydd disgwyl i chi fod wedi cwblhau'r lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
- Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Cyfrannu at berthnasoedd gwaith effeithiol ym maes adeiladu peirianneg
- Gweithio’n ddiogel a lleihau’r risg mewn adeiladu peirianyddol
- Nodi ac ymdrin â pheryglon ac argyfyngau yn yr amgylchedd gwaith peirianneg adeiladu
- Siapio cydrannau adeileddau dur gwneuthuredig trwy dynnu defnyddiau gan ddefnyddio offer llaw mewn adeiladu peirianyddol
- Cydosod cydrannau gwneuthuriadau dur i fodloni’r fanyleb mewn adeiladu peirianyddol
- Ffurfio cydrannau â llaw i fanyleb mewn adeiladu peirianyddol
- Uno deunyddiau trwy broses weldio a reolir â llaw mewn adeiladu peirianneg
Bydd pob Prentis yn ymgymryd â dosbarthiadau mewn Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Portffolio o dystiolaeth
- Tystiolaeth gweithle
- Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
- Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Modd: | |
---|---|
Lefel: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 11/03/2024