Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Gwaith Barbwr i Ddechreuwyr

Gwaith Barbwr i Ddechreuwyr

Trin Gwallt

Diploma NVQ Lefel 2 City & Guilds mewn Gwaith Barbwr (6008-04)

Os ydych chi’n greadigol, yn gyfeillgar, gyda llygad da am steil ac yn chwilio am yrfa werth chweil, efallai mai dyma’r cwrs i chi!

SKU: 49609
ID: N/A

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

I’r rhai sy’n dymuno gweithio a dilyn gyrfa mewn gwaith barbwr, mae’r cwrs hwn yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddod yn gymwys yn alwedigaethol fel barbwr iau.

Mae’n ofynnol i chi fynychu’r Coleg am un diwrnod yr wythnos, felly mae angen ymrwymiad, presenoldeb da a sgiliau trefnu cryf. Rhoddir pwyslais ar asesiadau ymarferol graddedig, terfynau amser aseiniadau a phrofion allanol.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiwn fasnachol gyda’r nos unwaith y bydd sgiliau wedi’u datblygu ac mae’n bosibl y bydd cyfleoedd ychwanegol o fewn yr wythnos ar gael yn salon y Coleg i wneud y mwyaf o arfer masnachol dan arweiniad y tîm addysgu sgiliau barbwr.

Mae’r cwrs 34 wythnos hwn (un flwyddyn academaidd) fel arfer yn rhedeg ar ddydd Llun, 10:00 – 19:00, gan ddechrau ym mis Medi.

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 141 neu unrhyw bryd drwy e-bost l.breckon@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

Mae’r unedau a astudir yn cynnwys:

  • Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
  • Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
  • Rhoi cyngor ac ymgynghori â chleientiaid
  • Torri a steilio gwallt dynion
  • Torri blew’r wyneb
  • Creu patrymau mewn gwallt
  • Lliwio gwallt dynion

Bydd disgwyl i chi wneud profiad gwaith mewn salon.

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Ymweliadau gan eich aseswr â'ch gweithle
  • Arholiad ar-lein

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwisg, y gallwch ei phrynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cit therapi penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cit trin gwallt penodol, y gallwch ei brynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

,

Modd:

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close