Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Mynediad i Ofal Iechyd AU

Mynediad i Ofal Iechyd AU

Mynediad i Ofal Iechyd AU

Mynediad i Ofal Iechyd AU

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gofal Iechyd)

Mae cwrs Mynediad yn gyfle dysgu dwys, wedi’i anelu at oedolion sy’n dymuno astudio yn y brifysgol ond nad oes ganddyn nhw o reidrwydd y cymwysterau i wneud cais.

ID: 1601

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sydd efallai heb unrhyw gymwysterau diweddar sy’n eu galluogi i gael mynediad i gwrs lefel gradd. Bydd y dysgwr yn cael trosolwg cadarn o iechyd gan gwmpasu agweddau corfforol, cymdeithasol a seicolegol.

Mae hwn yn gwrs dwys sy’n gofyn am lefel uchel o ymroddiad ac yn ddelfrydol presenoldeb 100%. Bydd gofyn i chi astudio y tu allan i oriau arferol y coleg er mwyn cwblhau aseiniadau a darllen cefndir. Rhaid i ymgeiswyr fod yn sicr eu bod yn barod ar gyfer gofynion academaidd a llwyth gwaith y rhaglen er mwyn cyflawni’r Diploma i safon sy’n ofynnol ar gyfer mynediad i’r brifysgol.

Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg dros dri diwrnod yr wythnos.

  • Dau TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Mae sgiliau bywyd, profiad ac aeddfedrwydd yn bwysig
  • Cwblhau rhaglen haf ar-lein yn llwyddiannus
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd C neu uwch
  • Cwblhau rhaglen haf ar-lein yn llwyddiannus

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Rhifedd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol
  • Rhifedd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol – cymhwysiad gwyddonol
  • Trin data a thebygolrwydd
  • Sgiliau academaidd
  • Cyfathrebu ar gyfer gwaith iechyd
  • Ymddygiadau proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • System gardiofasgwlaidd
  • System arennol ddynol
  • Resbiradaeth ysgyfeiniol
  • System ysgerbydol ddynol
  • Systemau atgenhedlu dynol
  • Strwythur celloedd a chludiant
  • Effeithiau ffordd o fyw ar iechyd
  • Iechyd, Addysg ac Ymddygiad
  • Straen a Rheoli straen
  • Agweddau damcaniaethol at seicoleg
  • Safbwyntiau cymdeithaseg
  • Traethawd estynedig

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Gallai gyrfaoedd yn y dyfodol gynnwys: Nyrsio, Bydwreigiaeth, Iechyd Galwedigaethol, Podiatreg, Therapi Lleferydd, Gwyddor Chwaraeon a Therapi Cyflenwol.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy mynediad o £35 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Duration:

1 flwyddyn

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 10/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close