Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Trin Gwallt

Diploma Lefel 3 NVQ VTCT mewn Trin Gwallt (6008-03)

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 31262

Mae’r cwrs hwn yn darparu dilyniant o Lefel 2 ac wedi’i gynllunio i’ch darparu â sgiliau uwch mewn torri, steilio a lliwio. Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich annog i ddangos eich creadigrwydd ac i ddechrau adeiladu eich steil neilltuol eich hun.

Person doing a Pink Hair Toss

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs yn adeiladu ar eich sgiliau presennol ac yn anelu at eich paratoi ar gyfer gwaith mewn salonau.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sgiliau uwch mewn steilio, torri a lliwio. Bydd y cwrs yn parhau i feithrin eich hyder a bydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn llawer o wahanol leoliadau, o’r stryd fawr i’r ‘catwalk’ i longau mordaith. Trwy gydol y cwrs byddwch yn cael eich annog i ddangos eich creadigrwydd i greu steiliau anhygoel.

Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiynau masnachol gyda’r nos y bydd disgwyl i chi eu mynychu er mwyn cael profiad masnachol. Felly, bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.

Sylwch ni chaniateir i ddysgwyr wisgo tlwsdyllau’r wyneb ar y cwrs hwn.

Canllaw i Gyrsiau Harddwch

  • Fel arfer nid oes mynediad uniongyrchol i'r cwrs hwn, byddai angen i chi symud ymlaen o gwblhau lefel flaenorol yn llwyddiannus yn y maes pwnc hwn neu debyg
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Fel rhan o’r cwrs byddwch yn astudio’r unedau canlynol:

  • Steilio a gwisgo gwallt yn greadigol
  • Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
  • Lliwio ac ysgafnhau gwallt yn greadigol
  • Darparu gwasanaethau ymgynghori
  • Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol

Trwy gydol y cwrs bydd ffocws ar sgiliau llythrennedd a rhifedd ynghyd â datblygu eich gwybodaeth am faterion cynaliadwy, dinasyddiaeth, dwyieithrwydd, menter a diwylliant Cymru. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu tiwtorialau wythnosol.

Bydd disgwyl i chi wneud profiad gwaith mewn salon yn ystod y cwrs.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus a symud ymlaen i raglen lefel uwch arwain at nifer o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol gan gynnwys: Triniwr Gwallt Iau, Steilydd, Lliwiwr, Barbwr, Rheolwr Salon, Cyfarwyddwr Creadigol.

Mae ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gan gynnwys gweithio fel steilydd mewn salon, hunangyflogaeth, gwaith teledu, theatr, ffilmiau, a gwaith sesiwn gyda ffotograffydd.

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Offer a Gwisg Trin Gwallt - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £400
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy trin gwallt o £50 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 3
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 06/12/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close