Trydanol – Craidd
Trydanol – Craidd
Craidd Lefel 2 City & Guilds mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (8042-52)
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y Diwydiant Adeiladu Trydanol yna dyma’r rhaglen i chi. Cymryd rhan mewn dysgu ymarferol a chyflawni tasgau trydanol sylfaenol yn ein hamgylchedd gweithdy deinamig ‘byw’.
Mae’r ffioedd fesul blwyddyn academaidd, yn amodol ar newid
£750.00
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno dilyn llwybr gyrfa o fewn y sector trydanol. Byddwch yn ennill profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol hanfodol i baratoi ar gyfer eich dyfodol yn y maes.
Mae’r cwrs hwn fel arfer yn rhedeg un diwrnod yr wythnos, am 2 flynedd, gan ddechrau ym mis Medi.
- Dim gofynion mynediad ffurfiol
- Mae'n bosibl y bydd angen prawf sgiliau sy'n gysylltiedig â'r pwnc yn sesiwn gwybodaeth y cwrs
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Ennill gwybodaeth trwy amrywiaeth o dasgau a wneir yn ein lleoliad gweithdy ‘byw’. Bydd y tasgau hyn yn cael eu hatgyfnerthu gan arddangosiadau ymarferol a gynlluniwyd i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o’r angen am arferion gweithio diogel, meistroli sgiliau offer sylfaenol, a chyflawni mesuriadau manwl gywir. Mae’r sgiliau hanfodol hyn gyda’i gilydd yn cyfrannu at ddatblygiad eich cymhwysedd fel crefftwr medrus.
Bydd y cymhwyster yn cwmpasu’r canlynol:
- Cyflogaeth a chyflogadwyedd yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu
- Newid arferion dros amser
- Cynllunio a gwerthuso gwaith yn y sector peirianneg gwasanaethau adeiladu yng Nghymru
- Deall sut i osod unedau amgaeedig ar gyfer ceblau trydanol, dargludyddion a systemau gwifrau
- Deall sut i osod a chysylltu ceblau, dargludyddion, systemau gwifrau ac offer trydanol
- Deall sut i archwilio a phrofi cylchedau trydan heb egni
- Deall gwyddoniaeth ac egwyddorion trydanol canolraddol
- Perfformio gosodiadau trydanol
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ar-lein
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd angen i ddysgwyr sicrhau cyflogwr/lleoliad gwaith i ymgymryd â gosodiad Electrodechnegol Lefel 3 EAL.
Gallai cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol mewn gwaith electrodechnegol: domestig, masnachol, diwydiannol.
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Trowsus gwaith trydanol - £25
- Esgidiau/bwts diogelwch trydanol - £14/£39
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
- Dim costau ychwanegol
- Mae ffioedd gostyngedig dan 19 yn berthnasol - cysylltwch â admissions@pembrokeshire.ac.uk
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 23/01/2024