Ydych chi’n hoffi dadansoddi a datrys problemau? Yna gallai peirianneg fod y llwybr i chi! Mae galw mawr am bynciau peirianneg o hyd ac mae’r rhai sy’n eu hastudio yn sefyll allan. Ar ôl cymhwyso mae’r cyfleoedd bron yn ddiderfyn gyda rhagolygon gwych ar gyfer dilyniant gyrfa.
Gwariwyd swm enfawr o £4.2 miliwn ar yr adain beirianneg ar y prif gampws gan ddarparu adnoddau peirianneg rhagorol i bob myfyriwr. Ymhlith y cyfleusterau mae gweithdai morol, mecanyddol a modurol yn ogystal â chanolfan ynni o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn defnyddio technolegau adnewyddadwy.
Rydym yn cynnig cysylltiadau da â diwydiant ochr yn ochr â darlithwyr a thechnegwyr profiadol arbenigol i sicrhau bod ein cyrsiau’n diwallu anghenion diwydiant. Mae ystafelloedd dosbarth modern ac offer ac adnoddau manyleb uchel yn sicrhau bod myfyrwyr yn gadael y Coleg â’r sgiliau i symud ymlaen yn y sector cyffrous hwn sydd yn ehangu.
Showing 1–12 of 43 results
-
Adeiladu Peirianneg Weldio – Pibellau
Wedi’i anelu at wneuthurwyr, weldwyr pibellau a phlât sy’n dymuno datblygu technegau weldio arbenigol, mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i unigolion arddangos a chael eu cydnabod am gymhwysedd galwedigaethol. -
Adeiladwr Sgiliau (Peirianneg a Thechnoleg)
£0.00Datgloi eich potensial yn y dyfodol gyda’r cwrs hwn yn cyfuno sgiliau technoleg defnyddiol gyda gweithgareddau ymarferol cyffrous.
-
Cerbydau Trydan a Hybrid – Cynnal a Chadw Diogel
£300.00Uwchsgiliwch eich arbenigedd presennol yn y sector modurol gyda’r wybodaeth i ynysu ac ail-fywiogi cerbyd trydan yn ddiogel.
-
Cerbydau Trydan a Hybrid – Tynnu Cydrannau ac Amnewid
£400.00Os ydych wedi meistroli Cynnal a Chadw Cerbydau Hybrid a Thrydanol, cymerwch y cam nesaf i Symud ac Amnewid Cydrannau mewn Cerbydau Trydan a Hybrid.
-
Crefft Peirianneg Fecanyddol
Mae’r diwydiant peirianneg yn sector amrywiol sy’n cynnig amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd dilyniant i bobl sydd â diddordeb mewn dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau a chydrannau mecanyddol.
-
Cwrs Trin Cyflyrydd Aer Symudol
£300.00Ehangu gwybodaeth a sgiliau gyda chymhwyster Nwy-F a chael tystysgrif gyfreithiol i drin nwyon oergell fflworin.
-
Cyflwyniad Weldio
£125.00P’un a ydych am adfer car neu wneud eich pwll tân eich hun, gyda’r offer cywir ac ychydig o amynedd mae weldio yn rhyfeddol o hawdd i’w ddatblygu fel sgil.
-
Cyn-gadetiaeth Peirianneg Forol Uwch
Mae hwn yn gyfle dysgu unigryw i’r rhai sy’n ceisio gyrfa forwrol ar y tir neu’r môr. Dyma’r unig gadetiaeth cyn-forol yng Nghymru.
-
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Modurol
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phob agwedd ar gynnal a chadw ac atgyweirio modurol, gan gynnwys gwasanaethu cerbydau, nodi diffygion a chywiro cerbydau ysgafn neu drwm.
-
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Modurol
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu sgiliau ymarferol mewn systemau modurol ac ehangu eu dealltwriaeth ohonynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddysgu sut i ddatblygu eraill.
-
Cynnal a Chadw Car Sylfaenol
£155.00Datblygu hyder a sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar gerbydau modur ysgafn.
-
Cynnal a Chadw Modurol
Os ydych wedi cwblhau eich Lefel 1 ac yn llawn cymhelliant ac yn dymuno paratoi eich hun ar gyfer gyrfa yn y diwydiant modurol, yna dyma’r cwrs i chi.