Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Gosod Brics

Gosod Brics

Bricklaying Course

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa “ymarferol” yn y diwydiant Adeiladu yna dyma’r rhaglen i chi. Dysgwch yr egwyddorion, y wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i’ch galluogi i ddeall y derminoleg benodol i’r grefft a ddefnyddir mewn galwedigaethau brics, bloc a cherrig.

ID: 54274

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth mewn Gosod Brics. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad. Mae Prentisiaethau mewn Gosod Brics yn cynnwys:

  • Hyfforddiant yn y coleg un diwrnod yr wythnos
  • Cymhwyster NVQ sy’n cael ei asesu yn y gweithle
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio – derbynnir Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar Lefel 1 fel dewisiadau eraill ar gyfer TGAU
  • Os nad ydych wedi cwblhau “Sylfaen” neu “Graidd” mewn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu, bydd angen i chi ymgymryd â Lefel 2 “Craidd mewn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu” fel rhan o’r Brentisiaeth hon.

I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth. Ni ellir cyflawni cymwysterau Gosod Brics Lefel 3 heb gyflogaeth yn y grefft.

Bydd angen i’ch cyflogwr:

  • Allu eich rhyddhau un diwrnod yr wythnos i fynychu’r coleg
  • Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
  • Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
  • Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi, gan gynnwys diwrnodau coleg

Cyflwyno

  • Yn y coleg: un diwrnod yr wythnos yn y coleg dros 2-3 blynedd yn dibynnu ar gymwysterau blaenorol a phrofiad diwydiant.
  • Yn y gweithle: Rhaid i gyflogwyr gytuno i ymweliadau aseswr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi ac i drafod eich cynnydd gyda goruchwyliwr.

Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf ac mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad oes gennych chi gyflogwr ond yr hoffech chi ddal ymuno â’r cwrs hyfforddi un diwrnod yr wythnos, ewch i’r dudalen Dysgwyr sy’n Oedolion – ‘Gwaith Brics – Craidd‘.

Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Nid yw cynnig cyflogaeth yn gwarantu lle ar unwaith yn y coleg.

Cludiant: Sylwch, ar gyfer cyrsiau prentisiaeth, byddai’r diwrnod coleg fel arfer yn dod i ben unrhyw bryd rhwng 5pm a 7pm, yn dibynnu ar y llwybr prentisiaeth rydych chi’n ei ddilyn. Gan fod bysiau’r coleg yn gadael am 4pm, bydd angen i chi sicrhau bod gennych eich cludiant eich hun yn ei le.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 205 neu unrhyw bryd drwy e-bost j.booth@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Mae'n bosibl y bydd angen prawf sgiliau sy'n gysylltiedig â'r pwnc yn sesiwn gwybodaeth y cwrs
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Os nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad efallai y byddwn yn cynnig cwrs arall i chi fel dewis arall
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Mae unedau yn cynnwys:

  • 301 Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru
  • 302 Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru
  • 303 Cynllunio a Gwerthuso Gwaith yn y Sector Adeiladu yng Nghymru
  • 304 Cydymffurfio ag Iechyd, Diogelwch a Lles Cyffredinol yn y Gweithle
  • 305 Cydymffurfio ag Arferion Gwaith Cynhyrchiol
  • 306 Symud, Trin neu Storio Adnoddau
  • 204 Gwybodaeth Graidd Gosod Brics
  • 205 Gosod Allan i Ffurfio Strwythurau Maen
  • 206 Adeileddau Gwaith Maen
  • 307 Codi Cladin Maen
  • 308 Codi Gwaith Maen i Ffurfio Adeileddau Pensaernïol neu Addurnol
  • 309 Trwsio a Chynnal a Chadw Strwythurau Maen

Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle. Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn.

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Adeiladu

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Offer Diogelu Personol (PPE) a Dillad, y gallwch eu prynu ar-lein cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

,

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 14/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close