Addysgu, Dysgu a Datblygu
Addysgu, Dysgu a Datblygu
Yn addas ar gyfer y rhai sydd naill ai’n cefnogi addysgu a dysgu mewn amgylchedd addysg neu sy’n gyfrifol am gyflwyno addysgu a dysgu.
Rydym yn cynnig prentisiaethau mewn:
- Lefel 3 Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu – addas ar gyfer y rhai mewn Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu neu rôl gefnogol o fewn addysg
- Lefel 3 Dysgu a Datblygu – addas ar gyfer y rhai sy’n cyflwyno hyfforddiant
Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:
POA
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Yn addas ar gyfer y rhai sydd naill ai’n cefnogi addysgu a dysgu mewn amgylchedd addysg neu sy’n gyfrifol am gyflwyno addysgu a dysgu. Gall pobl o unrhyw oedran ymgymryd â phrentisiaeth yn y meysydd hyn ac rydym yn cynnig Prentisiaethau ar Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu a Lefel 3 Dysgu a Datblygu. Mae mynediad yn amodol ar gyfweliad. Mae prentisiaethau yn cynnwys:
- Cymhwyster NVQ (yn seiliedig ar gymhwysedd a gwybodaeth ac wedi’i asesu yn y gweithle)
- Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth.
Bydd angen i’ch cyflogwr:
- Roi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
- Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
- Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi
- Cyfrannu at ymweliadau/apwyntiadau aseswyr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi a thrafod eich cynnydd
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 141 neu unrhyw bryd drwy e-bost l.breckon@pembrokeshire.ac.ukDysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- No formal entry requirements
- You will be expected to be in relevant job role
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course information session or informal interview
- Learners must be at least 16 years old
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cymwysterau hyn yn darparu’r sgiliau a’r gydnabyddiaeth angenrheidiol i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau mewn rôl gefnogol yn y sector Addysg neu’n darparu dysgu neu hyfforddiant i amrywiaeth o gynulleidfaoedd er enghraifft: hyfforddiant yn y gweithle.
Mae’r cwrs Lefel 3 Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu yn addas ar gyfer y rheini mewn rolau fel cynorthwyydd cymorth dysgu, cynorthwyydd bugeiliol, anogwr dysgu neu gynorthwyydd cymorth ymddygiad. Mae’n darparu dealltwriaeth fanwl o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio’n uniongyrchol gyda phlant neu bobl ifanc mewn amgylcheddau ysgol fel cynorthwyydd cymorth dysgu. Mae’n ymdrin â phob agwedd ar gymorth arbenigol gan gynnwys cynllunio, cyflwyno, ac adolygu strategaethau asesu i gefnogi dysgu ochr yn ochr â’r athro/athrawes, cymorth dwyieithog ac anghenion arbennig, a datblygiad personol ac arfer myfyriol.
Cymhwyster: Diploma Lefel 3 NCFE/CACHE mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Mae’r cwrs Lefel 3 Dysgu a Datblygu yn addas ar gyfer y rhai mewn rôl lle rydych yn gyfrifol am gyflwyno dysgu a datblygu fel Hyfforddwyr Mewnol, Rheolwyr Hyfforddiant, Hyfforddwyr Allanol, Aseswyr, Rheolwyr Gweithle neu Oruchwylwyr.
Cymhwyster: Tystysgrif Lefel 3 City & Guilds mewn Dysgu a Datblygiad (6318-03)
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Portfolio of evidence
- Visits from your assessor to your place of work
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- No additional equipment required
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffioedd.
Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Elfennau Dysgu Ar-lein? | Oes |
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 13/11/2023