Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Astudiaethau Busnes

Astudiaethau Busnes

Business A-level

Lefel-A Busnes CBAC

Yn bwriadu ymuno â byd gwaith a diwydiant? Naill ai’n sefydlu eich busnes bach eich hun neu’n gweithio i gwmni rhyngwladol byd-eang, mae llawer o’r meysydd dealltwriaeth allweddol a sgiliau defnyddiol yn cael eu cyflwyno o fewn y cwrs hwn.

MEYSYDD: ,
DYSGWYR:
ID: 1023

Myfyriwr Ffederasiwn
Gwnewch Gais Nawr

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Nod y cwrs Lefel-A Astudiaethau Busnes yw annog dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sefydliadau busnes, y marchnadoedd y maent yn eu gwasanaethu a’r broses o ychwanegu gwerth.

Heddiw, ‘busnes mawr’ yw busnes. Er mwyn bod yn llwyddiannus mae angen strategaeth fusnes ar bob sefydliad a fydd yn eu gweld nid yn unig yn tyfu eu cyfran o’r farchnad ond yn gwneud hynny mewn modd proffidiol. Mae hefyd wedi dod yn fwyfwy pwysig bod busnesau’n foesegol wrth ymdrin nid yn unig â’u gweithwyr ond hefyd eu prosesau amgylcheddol.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B a Mathemateg/Rhifedd gradd B
  • Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Fel rhan o’r cwrs byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o’r effaith y mae ffactorau allanol, fel yr economi, materion llywodraethol a chyfreithiol yn ei chael ar fusnesau. Byddwch hefyd yn caffael ystod o sgiliau, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, datrys problemau a’r gallu i werthuso lle bo’n briodol.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Cynllunio ac ariannu busnes – datblygu dealltwriaeth o feysydd swyddogaethol busnes, gan gynnwys marchnata, adnoddau dynol a chynhyrchu a sut maent yn cyfrannu at gystadleurwydd busnes
  • Rheoli busnes – datblygu dealltwriaeth o’r mesurau ariannol sydd eu hangen i sefydlu pa mor dda y caiff busnes ei reoli a dylai allu deall y camau y gellir eu cymryd i wella perfformiad ariannol
  • Strategaethau ar gyfer llwyddiant – cynnwys astudiaeth o’r strategaethau y gall busnesau eu mabwysiadu ar gyfer llwyddiant a bydd yn canolbwyntio ar fusnesau mwy a allai fod yn masnachu mewn marchnadoedd rhyngwladol
  • Yr amgylchedd busnes a rheoli newid – archwilio sut y gall ffactorau allanol effeithio ar fusnesau a’r ymatebion a gânt

Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ysgrifenedig

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Dadansoddwr Actiwaraidd, Cyflafareddwr, Cynghorydd Busnes, Dadansoddwr Busnes, Rheolwr Datblygu Busnes, Cyfrifydd Rheolaeth Siartredig, Banciwr Buddsoddi Corfforaethol, Dadansoddwr Data, Gwyddonydd Data, Cyfrifydd Fforensig, Tanysgrifennwr Yswiriant, Ymgynghorydd Rheoli, Rheolwr Prosiect, Rheolwr Risg, Brocer Stoc, Rheolwr Cadwyn Gyflenwi.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Lefel:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/10/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close