Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Busnes

Busnes

Busnes

Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Busnes

Ydych chi’n breuddwydio am ddod y cyfrifydd, y cyfreithiwr, yr ymgynghorydd busnes neu’r arweinydd busnes nesaf? Ydych chi wedi breuddwydio am weithio ym maes gwasanaeth cwsmer, marchnata, neu hyd yn oed reoli digwyddiadau mawr? Bydd y cwrs hwn yn garreg gamu ar eich taith i’ch cyrchfan dymunol – boed hynny’n gyflogaeth, addysg uwch, neu’n dechrau eich busnes eich hun.

MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 31233

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae byd busnes yn newid yn gyflym. Byddwch yn dysgu am fenter busnes, meysydd swyddogaethol busnes, yn ogystal ag ymwybyddiaeth ariannol, sut i gwblhau ymchwil marchnad, a marchnata busnes. Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi gyda datblygiad eich sgiliau academaidd, a datblygiad eich sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn fyd-eang eu heisiau gan gynnwys: gweithio mewn tîm, defnyddio menter i ddatrys problemau busnes, cyfathrebu a gwaith tîm.

Trwy amrywiaeth o asesiadau ysgrifenedig, asesiadau dan reolaeth ac un arholiad, byddwch yn ymchwilio i fusnesau ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddysgu beth yw byd busnes.

Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • Dau TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd

Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i feysydd swyddogaethol busnes. Bydd yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth i chi yn ymwneud â gwahanol fathau o fusnes ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Mae unedau yn cynnwys:

  • Datblygu Ymgyrch Farchnata – Mewnwelediad i ba mor bwysig yw marchnata i fusnes a sut mae ymgyrchoedd hyrwyddo yn cael eu cynllunio a’u gweithredu.
  • Cyllid Personol a Busnes – Mae cyllid personol yn ymwneud â deall pam mae arian yn bwysig a sut y gall rheoli eich arian helpu i atal anawsterau ariannol yn y dyfodol. Mae agweddau cyllid busnes yr uned yn eich cyflwyno i derminoleg gyfrifyddu, pwrpas a phwysigrwydd cyfrifon busnes ac offer cynllunio a’r gwahanol ffynonellau cyllid sydd ar gael i fusnesau.
  • Rheoli Digwyddiad – Yn cyfuno eich creadigrwydd a’ch sgiliau trefnu i gynhyrchu digwyddiadau llwyddiannus, cofiadwy, boed er elw neu fenter gymdeithasol.
  • Ymchwilio i Wasanaeth Cwsmer – Datblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol wrth ddelio â chwsmeriaid, a deall pwysigrwydd cael gwybodaeth dda am gynnyrch neu wasanaeth. Byddwch yn archwilio sut mae busnes yn meithrin perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid trwy nodi a chadarnhau anghenion y cwsmer.
  • Cynnig ar gyfer Busnes Newydd – Ymchwilio i syniad microfusnes posibl ac amlinellu cynllun busnes. Byddwch yn cyflwyno eich cynllun busnes i ‘The Pembrokeshire College Dragons’ (Dragon’s Den), gyda’r bwriad o sicrhau cyllid priodol.
  • Cyfraith Cyflogaeth – Byddwch yn dod i ddeall dogfennau cyflogaeth pwysig, hawliau a dyletswyddau cyflogeion a chyflogwyr, ac effaith diffyg cydymffurfio â’r gyfraith. Byddwch yn archwilio’r broses o ddatrys anghydfodau sy’n ymwneud â gwaith, yn gwneud dyfarniadau ar benderfyniadau tribiwnlysoedd ac yn archwilio’r cymorth sydd ar gael gan sefydliadau eraill.
  • Recriwtio a Dethol – Mae’n bwysig bod y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â recriwtio a dethol yn bodloni anghenion y busnes ac yn cydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol. Byddwch yn dysgu bod recriwtio llwyddiannus yn allweddol i gynnal llwyddiant busnes, gan fod pobl yn aml yn cael eu hystyried fel yr adnodd mwyaf gwerthfawr.
  • Hyfforddiant a Datblygiad – Yn yr uned hon, byddwch yn dysgu mai hyfforddiant a datblygiad yw’r allwedd i redeg busnes llwyddiannus; mae angen i reolwyr gael cynlluniau hyfforddi wedi’u cynllunio’n ofalus ar waith.
  • Ymchwil i’r Farchnad – Cynllunio a chynnal gweithgaredd ymchwil gan ddefnyddio’r dull dylunio a samplu mwyaf priodol. Byddwch yn dadansoddi ac yn dehongli data ymchwil marchnad ac yn cyflwyno eich canfyddiadau.
  • Gwneud Penderfyniadau Busnes – Byddwch yn ystyried sefyllfaoedd/senarios busnes lle mae gofyn i chi ddewis a defnyddio tystiolaeth briodol o sawl ffynhonnell i gefnogi eich dadleuon. Byddwch yn rhagfynegi canlyniadau tebygol, yn nodi dadleuon diffygiol neu gamliwio gwybodaeth neu ddata, yn cymharu gwybodaeth a data, yn darparu dewisiadau amgen rhesymol, ac yn gwerthuso a chyfiawnhau eich datrysiadau arfaethedig.
  • Egwyddorion Rheoli – Archwilio sut mae busnesau’n addasu eu dulliau rheoli mewn ymateb i heriau yn eu hamgylchedd. Yn dibynnu ar eu rolau a’u cyfrifoldebau, mae angen i reolwyr ddatblygu setiau sgiliau sy’n eu galluogi i weithio’n effeithiol mewn meysydd fel rheoli pobl, rheoli arian, adnoddau ac ansawdd, a rheoli newid.
  • Archwilio Busnes – byddwch yn cael trosolwg o sut mae busnesau’n cael eu trefnu, sut maen nhw’n cyfathrebu, nodweddion yr amgylchedd y maen nhw’n gweithredu ynddo, a sut mae hyn yn eu siapio nhw a’u gweithgareddau.

Mae gweithgareddau ymarferol yn nodwedd bwysig o’r cwrs a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymweliadau â diwydiant lleol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ysgrifenedig

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Rheoli Busnes, Rheoli Digwyddiadau, Gwerthiant, Adnoddau Dynol, Dadansoddi Data, Rheoli Manwerthu, Marchnata, Cyfrifeg, y Gyfraith.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

Llwybrau prifysgol dysgwyr blaenorol a gwblhaodd y cwrs hwn:

  • Rheolaeth Busnes
  • Gweinyddu Busnes
  • Busnes Rhyngwladol
  • Cyfraith
  • Cyfrifeg a Chyllid
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Rheoli Eiddo Tiriog
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Digwyddiadau
  • Rheoli Lletygarwch
  • Rheoli Twristiaeth
  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close