Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Golygfa o oleuadau llwyfan gydag actorion yn y cefndir.

Diploma Estynedig Lefel 3 UAL yn y Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Ready to take passion for performing to the next level? This course challenges and inspires, giving learners the chance to develop creativity, technical skills, and performance expertise in a supportive, dynamic environment.

MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 13051

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy’n breuddwydio am yrfa mewn actio, rheoli llwyfan, theatr dechnegol, addysgu, neu unrhyw faes sy’n gysylltiedig â’r celfyddydau. Mae’n gwrs gweithredol, trochol i unrhyw un sy’n angerddol am greu theatr fyw.

Fel rhan o’r cwrs, cymerwch ran mewn dau berfformiad cyhoeddus ar raddfa fawr bob blwyddyn, sy’n golygu bod angen rhai sesiynau gyda’r nos a phenwythnos ar gyfer ymarferion a pherfformiadau, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr mewn lleoliadau perfformio go iawn.

Mynediad at gyfleusterau safonol y diwydiant, gan gynnwys:

  • Theatr Merlin – lleoliad blwch du 240 sedd gyda rheolaeth sain a goleuadau digidol proffesiynol
  • Stiwdios drama a dawns – ar gyfer gwaith perfformio a symud
  • Gweithdy set a phropiau – ar gyfer profiad cynhyrchu ymarferol
  • Storfa wisgoedd ac ystafell wnïo – i ddatblygu sgiliau dylunio a thechnegol

Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf y cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael Diploma Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu, sef y cymhwyster galwedigaethol sy’n cyfateb i un a hanner Lefel A. Mae cwblhau’r ail flwyddyn yn arwain at Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu, sef y cymhwyster galwedigaethol sy’n cyfateb i dri Lefel A.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg gradd D neu uwch
  • Tystiolaeth o gyfranogiad diweddar yn y celfyddydau perfformio
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg gradd D neu uwch
  • Tystiolaeth o gyfranogiad diweddar yn y celfyddydau perfformio

Mae hon yn rhaglen eang sy’n edrych ar agweddau craidd drama, theatr dechnegol, a llais.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Egwyddorion perfformio – yn archwilio actio, canu, symudiad, ac ystod o arddulliau a thechnegau theatrig.
  • Ymgysylltu â chynulleidfa – sut i gysylltu â chynulleidfa fyw a’i denu.
  • Cyflwyniad i ymarfer proffesiynol – yn cwmpasu sgiliau proffesiynol hanfodol a sut i’w cymhwyso mewn astudiaethau a’r byd creadigol ehangach.
  • Ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol – yn archwilio’r ystyr, yr hanes, a’r cyd-destun ehangach y tu ôl i brosiectau a pherfformiadau.
  • Sgiliau cynhyrchu a chyd-destun – yn edrych ar sut i weithio yn ôl briff a chymhwyso unrhyw sgiliau cynhyrchu i gyd-destun.
  • Sgiliau perfformio a chyd-destun – sut i addasu a chymhwyso sgiliau perfformio i brosiectau proffesiynol.
  • Paratoi ar gyfer astudiaeth arbenigol – sut i fyfyrio ar arfer unigol a sut i greu cynlluniau gweithredu datblygiad personol i ddatblygu ymhellach.
  • Prosiect perfformiad cydweithredol – ty Prosiect Mawr Terfynol (PMP) lle mae dysgwyr yn arddangos eu holl sgiliau a technegau a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio mewn perfformiad tîm ar raddfa fawr.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Mae cyfleoedd gyrfa posibl yn cynnwys Actor, Canwr, Rheolwr Llwyfan, Cyfarwyddwr, Technegydd Goleuo neu Sain, Rheolwr Blaen Tŷ, Adlonydd Parc Gwyliau, Adlonydd Llongau Mordaith, Gweinyddwr Celfyddydau, Athro, Rheolwr Digwyddiadau.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Byddai’n fuddiol, ond ddim yn hanfodol, dod â’ch dyfais/gliniadur eich hun i gefnogi eich astudiaethau
  • Dillad ymarferol/cysurus ar gyfer rhannau o'r cwrs
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy celfyddyd cynhyrchu o £40 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Yn ystod y cwrs bydd costau ychwanegol ar gyfer nwyddau traul
  • Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Hyd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 20/06/2026
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close