Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth

Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth
Mae’r cwrs hwn yn rhoi ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i ddysgwyr o weithio gydag amrywiaeth eang o dechnoleg i gefnogi mynediad i’r diwydiant cerddoriaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar y technegau a ddefnyddir i recordio a chynhyrchu cerddoriaeth, i lwyfannu perfformiadau cerddoriaeth a hefyd i ddatblygu fel cyfansoddwyr a pherfformwyr cerddoriaeth boblogaidd. Bydd angen i ddysgwyr feddu ar brofiad blaenorol o wneud cerddoriaeth fel offerynwyr neu leiswyr, neu drwy ddefnyddio technolegau eraill fel DJio neu gynhyrchu cerddoriaeth gyfrifiadurol.
Mae cwblhau’r Diploma Estynedig yn llwyddiannus ym mlwyddyn dau gyfwerth â thair Lefel A.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Dau fideo neu recordiad o greu cerddoriaeth - perfformiadau/cyfansoddiadau
- Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
- Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
- TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
- TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
- Dau fideo neu recordiad o greu cerddoriaeth - perfformiadau/cyfansoddiadau
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o gerddoriaeth bop trwy wrando, chwarae a pherfformio ochr yn ochr â phrosiectau ymchwil a thrafodaethau dosbarth. Byddwch yn dysgu technegau stiwdio a sain byw trwy brofiad ymarferol a phrosiectau recordio a pherfformio go iawn. Mae gwaith tîm yn hanfodol wrth greu cerddoriaeth a byddwch yn gwneud llawer o waith mewn grwpiau yn ogystal ag fel unigolyn. Mae’r cwrs yn ymarferol iawn ac yn canolbwyntio ar wneud a recordio cerddoriaeth, ond byddwch hefyd yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau.
Mae’r cwrs yn cynnwys wyth uned a fydd yn datblygu eich sgiliau mewn:
- Chwarae
- Perfformio
- Cyfansoddi
- Dilyniannu
- Recordio
- Cynhyrchu
- Golygu
- Cymysgu
- Meistroli cerddoriaeth
Yn bwysicaf oll, byddwch yn datblygu eich gallu i wrando!
Byddwch hefyd yn:
- Perfformio fel cerddor
- Creu cerddoriaeth newydd fel cyfansoddwr neu ysgrifennwr caneuon
- Recordio a chynhyrchu eich cerddoriaeth eich hun a cherddoriaeth eraill
- Datblygu sgiliau damcaniaethol a geirfa gerddorol a thechnegol
- Defnyddio cyfrifiaduron fel offer ar gyfer cyfansoddi a recordio
- Trefnu a llwyfannu gigs a digwyddiadau cerddorol eraill
- Datblygu eich sgiliau busnes trwy brosiectau menter
- Gwerthuso a dadansoddi eich gwaith er mwyn gwella eich perfformiad
Yn ystod yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPA) CBAC – wedi’i raddio fel lefel AS, gall ddarparu pwyntiau UCAS ychwanegol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
- pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith
Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Gradd C neu uwch yn y ddau
Gradd D
Gradd E neu F
Gradd G neu is
Gradd C neu uwch yn y ddau
Os ydych yn astudio cymhwyster Seiliedig ar Waith:
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
Pob cwrs arall:
- Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl yn feirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, cefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Gradd D
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd E neu F
Ar gyfer Saesneg:
- Cwrs uwchsgilio blwyddyn neu ddwy cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Ar gyfer Mathemateg:
- Cwrs ailsefyll TGAU blwyddyn yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Gradd G neu is
- Cwrs uwchsgilio dwy flynedd cyn TGAU yn y pwnc/pynciau gofynnol
- Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ar gyfer rhaglenni llwybr Dilyniant o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig yn unig
Bydd enillwyr sy’n astudio ar raglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) yn cael eu hamserlennu i sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn agor drysau i nifer o wahanol yrfaoedd gan gynnwys:
Busnes cerddoriaeth – Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn fusnes gwerth biliynau o bunnoedd a thu ôl i holl swyn a hudoliaeth yr artist perfformio mae miloedd o rolau sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo llwyddiant yr artist perfformio. O staff gweinyddol ar label recordio, cyhoeddwr cerddoriaeth, asiant bwcio, rheolwr teithiau, peiriannydd monitor, rheolwr llwyfan, technegydd gitâr, arlwywr, rheolwr stiwdio ac yn y blaen – bydd yr unigolion hyn i gyd yn cael eu gyrru gan angerdd am gerddoriaeth ac awydd i fod yn rhan o rywbeth pwysig, creadigol ac mewn rhai achosion hanesyddol.
Peiriannydd recordio – sy’n gyfrifol am ddewis a gweithredu’r holl offer sydd eu hangen i recordio a chymysgu cerddoriaeth yn y stiwdio recordio. Mae’r rôl hon yn gofyn am lefel uchel o ddealltwriaeth dechnegol a sgiliau cyfathrebu da i gael y gorau gan y perfformiwr. Yn aml yn gweithio’n agos iawn gyda chynhyrchydd y recordiau.
Cynhyrchydd recordiau – yn gyfrifol am siapio’r weledigaeth greadigol yn artistig wrth weithio gyda band i wneud y cynnyrch gorffenedig gorau posib. Mae’r rôl hon yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o sut mae cerddoriaeth yn gweithio, sut i ddatblygu caneuon, a sut i ymgysylltu â’r gynulleidfa darged.
Cerddor proffesiynol – gallai fod yn artist, yn chwarae fel cerddor sesiwn stiwdio, neu’n ysgrifennu a datblygu caneuon ar gyfer artistiaid eraill. Mae’r rôl hon yn gofyn am lawer o brofiad, a bydd angerdd, a phenderfyniad, dawn a’r gallu i rwydweithio yn sicrhau llwyddiant.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
- Plygiau clust - £20
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Dim ffi dysgu
- Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26
- Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy cerdd o £40 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
- Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
- Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: | |
---|---|
Modd: | |
Duration: | 2 flynedd |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf
Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023