Sbaeneg
Sbaeneg
Sbaeneg
Sbaeneg Lefel-A CBAC
Mae Lefel-A Sbaeneg yn rhoi cyfle difyr a chyffrous i chi adeiladu ar eich astudiaeth flaenorol o Sbaeneg.
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Trwy themâu cymdeithasol, deallusol a diwylliannol byddwch yn gallu datblygu eich gwybodaeth ieithyddol a’ch dealltwriaeth ddiwylliannol o’r gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir yr iaith.
Bydd cyfle i astudio llenyddiaeth a ffilm yn caniatáu i chi wneud dadansoddiad dyfnach o strwythurau iaith a chynyddu eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol fel rhan o ddull integredig o ddysgu iaith.
Beth yw'r gofynion mynediad?
- Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics
- Spanish grade B and English Language/Literature/First Language Welsh grade B
- Please check the AS Level Options Grid to see if this subject fits into your chosen programme
- Each application is considered on individual merit
- Entry is subject to attending a course meeting or informal interview
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
- Each application is considered on individual merit
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Rhoddir ffocws cryf ar feithrin eich hyder a’ch rhuglder mewn Sbaeneg llafar gan ddefnyddio themâu perthnasol ac amserol.
Mae’r gofyniad i ymchwilio i faes o ddiddordeb personol sy’n gysylltiedig â’r wlad neu’r gwledydd lle siaredir Sbaeneg yn anelu at wella eich gwerthfawrogiad diwylliannol a’ch galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o wahaniaethau rhyngddiwylliannol.
Byddwch yn cael eich annog i:
- wella eu sgiliau ieithyddol a hybu a datblygu eu gallu i feddwl yn feirniadol ar sail eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o iaith, diwylliant a chymdeithas y gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir yr iaith.
- datblygu rheolaeth ar y system iaith i gyfleu ystyr, gan ddefnyddio sgiliau llafar ac ysgrifenedig, gan gynnwys ystod estynedig o eirfa, at ddibenion ymarferol a deallusol fel defnyddwyr cynyddol hyderus, cywir ac annibynnol yr iaith
- datblygu eu gallu i ryngweithio’n effeithiol â defnyddwyr yr iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gynnwys trwy gyfryngau ar-lein
- datblygu sgiliau a strategaethau dysgu iaith, gan gynnwys strategaethau cyfathrebu i gynnal cyfathrebu a meithrin rhuglder a hyder
- ymgysylltu’n feirniadol â thestunau, ffilmiau a deunyddiau eraill ysgogol yn ddeallusol yn yr iaith wreiddiol, gan ddatblygu gwerthfawrogiad o ddefnyddiau soffistigedig a chreadigol o’r iaith a’u deall o fewn eu cyd-destun diwylliannol a chymdeithasol
- datblygu gwybodaeth am faterion sy’n ganolog i gymdeithas a diwylliant, ddoe a heddiw, y gwledydd neu’r cymunedau lle siaredir yr iaith
- cyfryngu rhwng diwylliannau a rhwng siaradwyr yr iaith a siaradwyr Cymraeg/Saesneg
- meithrin eu gallu i ddysgu ieithoedd eraill
- arfogi eu hunain â sgiliau trosglwyddadwy fel ymreolaeth, dyfeisgarwch, creadigrwydd, meddwl beirniadol, a hyblygrwydd ieithyddol, diwylliannol a gwybyddol a fydd yn eu galluogi i fynd ymlaen i astudiaeth bellach neu gyflogaeth
- datblygu eu gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol trwy gyfrwng yr iaith astudio
- datblygu fel ymchwilwyr annibynnol trwy gyfrwng yr iaith astudio
Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Written examination
- Oral examination
- Completion of a final major project
Beth alla i ei wneud nesaf?
Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Ymchwilydd Academaidd, Dehonglydd, Dadansoddwr Risg Gwleidyddol, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Newyddiadurwr Darlledu, Ditectif, Swyddog Gwasanaeth Diplomyddol, Ymgynghorydd Addysg, Athro/Athrawes Saesneg fel Iaith Dramor , Gweithiwr Cymorth/Datblygu Rhyngwladol, Rheolwr Logisteg a Dosbarthu, Swyddog Gweithredol Marchnata, Archwiliwr Patent, Tiwtor Preifat, Rheolwr Hawliau Cyhoeddi, Gweithredwr Gwerthu, Rheolwr Taith, Cyfieithydd.
Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course, most textbooks are available to loan from the college library or online libraries
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- No tuition fee
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
| Modd: | |
|---|---|
| Lefel: | |
| Hyd: |
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
