Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Daearyddiaeth

Lefel-A Daearyddiaeth CBAC

Mode: Llawn-amser
Level: Lefel 3 - Uwch

ID y Cwrs: 1023

Mae Daearyddiaeth Lefel A yn eich annog i gymhwyso gwybodaeth, theori a sgiliau daearyddol i’r byd o’n cwmpas.
Yn ei dro bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bobl, lleoedd ac amgylcheddau’r byd yn yr 21ain Ganrif. Yn ei dro bydd hyn yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bobl, lleoedd ac amgylcheddau’r byd yn yr 21ain Ganrif.

Tirwedd fynyddig unigryw yn yr anialwch.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol cyfoes ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch ac ystod o gyfleoedd cyflogaeth.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg
  • Daearyddiaeth gradd B a Saesneg Iaith/Llenyddiaeth/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd B a Mathemateg/Rhifedd gradd B
  • Gwiriwch y Grid Opsiynau Lefel AS i weld a yw'r pwnc hwn yn cyd-fynd â'ch rhaglen ddewisol
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu cyfarfod cwrs neu gyfweliad anffurfiol

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol

Y ffocws yw datblygu brwdfrydedd a chymhwysedd mewn daearyddiaeth trwy ddefnyddio cyd-destunau byd go iawn cyfoes, o ystod o raddfeydd gofodol penodol, a thrwy ymgysylltu â sgiliau a thechnegau daearyddol yn y maes a’u cymhwyso’n ymarferol.
Mae’r fanyleb hon yn tynnu ar ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, yn archwilio rhyngweithiadau rhwng pobl a’r amgylchedd ac yn annog datblygiad gwaith maes ar lefel leol i’ch galluogi i ofyn cwestiynau ymholi. Mae’r fanyleb hon yn tynnu ar ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, yn archwilio rhyngweithiadau rhwng pobl a’r amgylchedd ac yn annog datblygiad gwaith maes ar lefel leol i’ch galluogi i ofyn cwestiynau ymholi.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Tirweddau newidiol – y prosesau ffisegol sy’n gysylltiedig â thirweddau arfordirol yn ogystal â ffactorau dynol, gan gynnwys gwaith maes
  • Newid lleoedd – lleoedd a’u nodweddion deinamig ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang, gan gynnwys gwaith maes
  • Systemau byd-eang a llywodraethu byd-eang – yn cynnwys y cylchoedd dŵr a charbon, heriau mudo dynol a llywodraethu cefnforoedd y ddaear
  • Themâu cyfoes mewn daearyddiaeth – themâu dewisol sy’n cynnwys ecosystemau, twf a her economaidd, newidiadau ynni a chyfyng-gyngor a thywydd a hinsawdd
  • Ymchwiliad annibynnol – yn adeiladu ar waith a gwmpesir yn y fanyleb sy’n cynnwys gwaith maes

Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Arholiad ysgrifenedig
  • Cwblhau prosiect mawr terfynol

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Cartograffydd, Syrfëwr Masnachol/Preswyl, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Swyddog Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, Syrfëwr Cynllunio a Datblygu, Athro/Athrawes Ysgol Uwchradd, Cynlluniwr Tref, Seryddwr, Cymorth Rhyngwladol /Gweithiwr Datblygu, Pensaer Tirwedd, Rheolwr Logisteg a Dosbarthu, Ymchwilydd Marchnad, Swyddog Cadwraeth Natur, Dadansoddwr Risg Gwleidyddol, Ymgynghorydd Cynaladwyedd, Swyddog Twristiaeth, Cynlluniwr Trafnidiaeth.

Ydych chi’n ystyried astudio ar lefel gradd ar ôl y cwrs hwn? Ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Llyfrynnau Diweddaraf:

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 28/10/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close