Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Dylunio Graffig a Darlunio

Dylunio Graffig a Darlunio

Graphic Design Course

Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Celf a Dylunio - Dylunio Graffig

Mae dylunio graffeg a darlunio yn ymwneud â chyfathrebu gweledol. Mae angen sgiliau dylunwyr graffeg a darlunwyr ar y rhan fwyaf o fusnesau a sefydliadau i’w helpu i werthu eu cynhyrchion, rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau, a helpu pobl i ddeall gwybodaeth neu naratifau cymhleth.

MEYSYDD:
DYSGWYR:
ID: 13056

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Rydyn ni’n gweld dylunio graffeg a darlunio o’n cwmpas bob dydd:

  • Brandio a logos
  • Hysbysebu, cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
  • Gwybodaeth, addysg ac arwyddion
  • Pecynnu a nwyddau papur
  • Dyluniadau crys-T/dillad
  • Dyluniad teip
  • Llyfrau, cylchgronau, comics, nofelau graffeg a gemau
  • Dylunio gwe ac ux
  • Dyluniad cymeriadau
  • Arddulliau darlunio cyfoes
  • Graffeg symud ar gyfer teledu, ffilm a llwyfannau cymdeithasol … a mwy!

Mae dylunwyr graffeg a darlunwyr yn cyfathrebu â geiriau a delweddau. Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais cryf ar ymchwil, digon o arbrofi trwy dechnegau ymarferol fel lluniadu ac argraffu a datblygu syniadau a sgiliau. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio pecynnau o safon diwydiant fel Adobe Photoshop, Illustrator, InDesign ac yn gallu ymestyn eich dysgu o fewn yr apiau rydych eisoes yn eu defnyddio.

Mae gan y cwrs gysylltiad da â chyflogwyr lleol a chenedlaethol gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn briffiau byw a chystadlaethau. Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn paratoi portffolio o’ch gwaith gorau a bod yn barod ar gyfer cam nesaf eich gyrfa yn y diwydiannau creadigol, boed hynny’n radd BA yn y brifysgol, i brentisiaeth neu gyflogaeth, neu fel dylunydd graffeg neu ddarlunydd hunangyflogedig. Mae’n bleser gennym adrodd bod pob myfyriwr Lefel 3 sy’n gwneud cais i brifysgol ar draws y DU yn cael cynnig lle ar ystod o gyrsiau creadigol.

Rydym yn falch o’n cyrsiau galwedigaethol celf a dylunio Lefel 3 yma yng Ngholeg Sir Benfro. Wedi’u cyflwyno dan y corff dyfarnu University Arts London, bydd ein Diplomâu Estynedig Lefel 3 yn rhoi’r un pwyntiau mynediad UCAS i chi â 3 chymhwyster Lefel-A. Er bod ein cyrsiau yn heriol ac yn academaidd, nid oes arholiadau – mae gwaith prosiect a phortffolios yn cael eu hasesu’n barhaus.

  • Pum TGAU gradd C neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
  • Bydd angen dod â phortffolio/enghreifftiau o waith ar gyfer y cwrs hwn
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus gyda gradd teilyngdod neu uwch yn ogystal â phenderfyniad llwyddiannus o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch

Bydd yr unedau a astudir yn cynnwys:

Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio (Blwyddyn 1)

  • Bydd Uned 1 yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr er mwyn cefnogi defnydd hyderus o iaith weledol mewn gweithgareddau celf a dylunio.
  • Bydd Uned 2 yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i ystod o weithgareddau ymchwil a sgiliau cysylltiedig sy’n briodol i gelf a dylunio. Bydd hefyd yn cyflwyno pwysigrwydd cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig fel rhan annatod o’r broses celf a dylunio.
  • Bydd Uned 3 yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol sy’n berthnasol i gelf a dylunio. Bydd hefyd yn ailadrodd pwysigrwydd cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig fel rhan annatod o’r broses celf a dylunio.
  • Bydd Uned 4 yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i ystod o ddeunyddiau a phrosesau celf a dylunio, er mwyn galluogi dealltwriaeth o’u nodweddion a’u defnyddiau penodol, a’r sgiliau technegol cysylltiedig sydd eu hangen i gofnodi profiadau a mynegi syniadau.
  • Bydd Uned 5 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr integreiddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillwyd yn unedau 1–4 i gynnig datrysiad i broblem dau ddimensiwn celf a dylunio.
  • Bydd Uned 6 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr integreiddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillwyd yn unedau 1–4 i gynnig datrysiad i broblem celf a dylunio tri dimensiwn.
  • Bydd Uned 7 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr integreiddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillwyd yn unedau 1–4 i gynnig datrysiad i broblem celf a dylunio seiliedig ar amser.
  • Bydd Uned 8 yn rhoi rhywfaint o ddysgu hunangyfeiriedig i fyfyrwyr wrth iddynt ddatblygu prosiect celf a dylunio sylweddol. Mae’r uned yn gofyn i fyfyrwyr gymhwyso’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth y maent wedi’u datblygu yn unedau 1–7 i ddatblygu prosiect celf a dylunio. Bydd yn rhoi cyfle iddynt egluro eu nodau tymor hwy, trwy ddewis gweithgaredd celf a dylunio i’w archwilio’n fanylach.
  • Gellir cysylltu Uned 9 â dysgu ar gyfer uned 8 ac mae’n defnyddio dilyniant cydlynol o brofiadau dysgu i roi cyflwyniad i fyfyrwyr i ystod o gyfleoedd dilyniant sydd ar gael o fewn addysg a chyflogaeth celf a dylunio.

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celf a Dylunio (Blwyddyn 2)

  • Bydd Uned 10 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth fanwl, â ffocws o’r nodweddion, y cymhlethdod a’r cyd-destunau sy’n diffinio gweithgaredd celf a dylunio. Trwy archwilio nodweddion a chyd-destunau celf a dylunio, bydd yr uned yn gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â deialog fwy ffurfiol o ymholiad a dealltwriaeth bersonol wedi’i dylunio i gadarnhau cryfderau, brwdfrydedd ac uchelgeisiau.
  • Bydd Uned 11 yn darparu cyfnod penodol i fyfyrwyr ymchwilio i gyfleoedd cyflogaeth addysg uwch a chysylltiedig a’r sgiliau ymarferol, deallusol a chyfathrebu angenrheidiol ar gyfer symud ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth celf a dylunio.
  • Mae Uned 12 yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o weithgaredd celf a dylunio penodol a’r modd y gellir cyrraedd cynulleidfa’r gweithgaredd hwnnw a mynd i’r afael â hi. Mae’r uned yn rhoi cyfle iddynt ddangos dealltwriaeth o gynulleidfa ar gyfer eu dewis faes celf a dylunio trwy ymwneud â thasg neu dasgau datrys problemau cymhleth. Disgwylir i fyfyrwyr gymryd perchnogaeth o’u dysgu trwy ymateb yn gadarnhaol i’r cyfleoedd cynyddol ar gyfer mynegiant unigol a chreadigedd a gynigir.
  • Mae Uned 13 yn gofyn i fyfyrwyr ddangos eu gallu i ddewis, trefnu a chwblhau prosiect celf a dylunio sy’n adlewyrchu lefel a safon eu dysgu. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gadarnhau aeddfedrwydd priodol drwy gymryd llawer mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain, gan ddangos yr hunan-gymhelliant a’r gallu annibynnol i gychwyn, ymchwilio, datblygu, gweithredu, myfyrio a gwerthuso prosiect sylweddol i baratoi ar gyfer Addysg Uwch, neu gyflogaeth yn eu gweithgaredd celf a dylunio a ddewiswyd.

Yn ystod yr ail flwyddyn bydd dysgwyr yn astudio Cymhwyster Prosiect Estynedig (CPA) CBAC – wedi’i raddio fel lefel AS, gall ddarparu pwyntiau UCAS ychwanegol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth

Gall cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus fod yn garreg gamu i nifer o wahanol gyfleoedd gan gynnwys cyflogaeth ar lefel iau mewn asiantaethau hysbysebu, grwpiau dylunio, cyhoeddwyr, arbenigwyr graffeg gyfrifiadurol neu gwmnïau dylunio teip.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Deunyddiau celf - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Cofbin/gyriant caled USB bach cludadwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy celf o £60 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gallwch rentu locer am £10 y flwyddyn a bydd hwn yn cael ei ad-dalu os na fydd y locer wedi'i ddifrodi a bod allweddi'n cael eu dychwelyd
  • Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Additional information

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close