Neidio i’r prif gynnwys Neidio i’r troedyn

Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Pembrokeshire College Logo

Blog

Gweinyddu Busnes

Gweinyddu Busnes

Gweinyddu Busnes

Mae’r cymwysterau hyn yn darparu’r sgiliau angenrheidiol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd weinyddol neu reoli. Mae unedau cyffredin yn cynnwys cyfathrebu, perthnasoedd gwaith a pherfformiad a datblygiad personol.

SKU: 39153
MEYSYDD:
ID: N/A

Os na chaiff ei gymryd fel prentisiaeth – cost:

POA

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Gall pobl o unrhyw oedran ddilyn prentisiaeth mewn Gweinyddu neu Reoli Busnes.

Mae’r prentisiaethau canlynol ar gael:

  • Lefel 2 Gweinyddu Busnes
  • Lefel 3 Gweinyddu Busnes
  • Lefel 4 Gweinyddu Busnes

Mae prentisiaethau Lefel 2 a 3 yn cynnwys:

  • Cymhwyster NVQ yn cyfuno gwybodaeth a chymhwysedd (a asesir yn y gweithle)
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio

Mae prentisiaethau Lefel 4 (Prentisiaethau Uwch) yn cynnwys:

  • Cymhwyster NVQ a asesir yn y gweithle
  • Tystysgrif Dechnegol (cymhwyster seiliedig ar wybodaeth yn unig)
  • Cymwysterau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol oni bai eich bod wedi’ch eithrio
  • Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch (cyfwerth â HNC neu HND), cewch eich gwahodd i Seremoni Raddio’r Coleg yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

I wneud cais am brentisiaeth, mae’n rhaid bod gennych gyflogwr sy’n fodlon eich cyflogi drwy gydol eich prentisiaeth.

Bydd angen i’ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • Rhoi tystiolaeth o yswiriant addas i ni a thystiolaeth o’ch statws cyflogaeth
  • Bod yn hapus i drafod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch gyda’ch aseswr
  • Talu’r isafswm cyflog cenedlaethol priodol i chi gan gynnwys amser i fynychu gweithdai’r Coleg
  • Cyfrannu at ymweliadau/apwyntiadau aseswyr wedi’u cynllunio bob mis i’ch arsylwi a thrafod eich cynnydd

Byddwn yn gofyn i chi ddarparu copi o’r tystysgrifau canlynol:

  • eich cymhwyster lefel uchaf
  • os oes gennych chi TGAU mewn Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg neu Rifedd

Mae gofynion penodol ar gyfer gweithgareddau y mae angen i chi allu eu cyflawni yn y gweithle.

Ar ôl i chi wneud cais, bydd aseswr yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i drafod sut i fodloni’r gofynion hyn a phennu pa gymhwyster lefel i gofrestru arno. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio asesiadau llythrennedd a rhifedd eraill, a elwir yn WEST, i asesu eich addasrwydd.

Mae lleoedd ar Raglenni Prentisiaeth yn gyfyngedig ac yn amodol ar gapasiti. Os nad oes gennych gyflogwr ond yn gwirfoddoli am o leiaf 16 awr yr wythnos, yna gwnewch gais o hyd a gallwn drafod opsiynau eraill gyda chi.
Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Ydych chi’n Gyflogwr sy’n edrych i gymryd Prentis?
Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.


Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm dysgu seiliedig ar waith, yn ystod oriau gwaith, ar 01437 753 141 neu unrhyw bryd drwy e-bost l.breckon@pembrokeshire.ac.uk

Dysgwch fwy am ddechrau prentisiaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredi.

  • Dim gofynion mynediad ffurfiol
  • Bydd disgwyl i chi fod mewn swydd berthnasol
  • Rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed o leiaf

Mae’r cymwysterau hyn yn darparu’r sgiliau angenrheidiol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd weinyddol neu reoli. Mae unedau cyffredin yn cynnwys cyfathrebu, perthnasoedd gwaith a pherfformiad a datblygiad personol.

Gweinyddu Busnes

Mae Lefel 2 ar gyfer y rheini mewn amgylchedd gweinyddu busnes ac sy’n darparu cymorth gweinyddol, gall dysgwyr ddewis nifer o unedau dewisol sy’n cynnwys adnoddau dynol, cyllid a rheoli gwybodaeth. Cymhwyster:

Gweinyddu Busnes Lefel 2 City & Guilds 5528 – 02

Mae Lefel 3 ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau gweinyddu busnes ar draws ystod fwy cynhwysfawr o sgiliau busnes. Dewiswch o ystod o unedau dewisol gan gynnwys datblygu systemau gwybodaeth, dadansoddi data a chreu dogfennaeth fusnes bwrpasol.

Cymhwyster: City & Guilds Lefel 3 Gweinyddu Busnes 5528 – 03

Mae Lefel 4 ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn rôl gweinyddu busnes uwch sy’n gofyn am weithio gydag ymreolaeth a chyfrifoldeb personol. Dewiswch o ystod o unedau dewisol gan gynnwys gweithredu cynlluniau, cychwyn newidiadau, monitro systemau gwybodaeth. I’r rhai sy’n dilyn y llwybr prentisiaeth, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau cymhwyster ychwanegol sy’n seiliedig ar wybodaeth yn unig i gyflawni’r fframwaith prentisiaeth.

Cymwysterau: City & Guilds Lefel 4 Gweinyddu Busnes 5528 – 04 a Thystysgrif Dechnegol: Diploma Lefel 4 City & Guilds mewn Busnes a Gweinyddiaeth Broffesiynol 4710-04 (llwybr Prentisiaeth yn unig)

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Os cewch eich derbyn ar gyfer prentisiaeth yna cynhelir adolygiadau gyda’ch aseswr a’ch cyflogwr bob 1-2 fis a disgwylir i chi fod wedi datblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhwng pob adolygiad

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall dysgwyr symud ymlaen i’r lefel nesaf. Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu seremoni Raddio’r Coleg ar ôl cwblhau prentisiaethau Lefel 4 a 5 (Prentisiaeth Uwch a’r hyn sy’n cyfateb i HNC/HND).

  • Nid oes angen unrhyw offer ychwanegol

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid. I gael gwybodaeth am ad-daliadau a chanslo cyrsiau, gweler y polisi ffïoedd.

Ydych chi'n Gyflogwr sy'n ystyried cymryd Prentis?

Dysgwch fwy am brentisiaethau a’r manteision i chi fel Cyflogwr ar ein tudalen Hyfforddiant Cyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/09/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close