Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Trin gwallt

Trin gwallt

Trin gwallt

City & Guilds Accelerated Level 1/2 Diploma in Hairdressing

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac mae wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n gobeithio dod yn steilwyr cymwys. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i dorri, pyrmio a lliwio gwallt. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau derbynfa salon, yn dysgu sut i roi ymgynghoriadau â chleientiaid a sut i hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion salon.

DYSGWYR:
ID: 52420

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae’r cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn addas ar gyfer y rhai sy’n gobeithio gweithio fel steilydd.

Mae’r cwrs ymarferol hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn byddwch yn astudio pob agwedd ar drin gwallt ac yn adeiladu eich gwybodaeth a’ch sgiliau technegol er mwyn dod yn steilydd gwallt proffesiynol.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys sesiynau masnachol gyda’r nos y bydd disgwyl i chi eu mynychu er mwyn cael profiad masnachol. Felly, bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau cludiant eich hun.
Sylwch nad yw dysgwyr yn cael gwisgo tlwsdyllau’r wyneb ar y cwrs hwn.
Cymhwysedd (Lefel 2)
Mae’r cwrs hwn ar gael i ddysgwyr sydd â’r gofynion mynediad ar gyfer rhaglen Lefel 1 ond sy’n dangos y gallu i weithio ar safon Lefel 2. Bydd angen cwblhau asesiad ymarferol yn llwyddiannus yn y 6 wythnos gyntaf er mwyn asesu gallu i fodloni gofynion sgiliau’r rhaglen garlam. Mewn achosion lle na chaiff yr asesiad hwn ei basio, bydd dysgwyr yn cwblhau rhaglen Lefel 1.

  • Dau TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf
  • Mae angen sgiliau cyfathrebu a chyflwyniad personol da
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen perthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant

Ymhlith yr unedau y byddwch yn eu hastudio mae:
• Rhoi cyngor ac ymgynghori â chleientiaid
• Siampŵ, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
• Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith
• Steilio a gorffen y gwallt
• Gosod a gwisgo’r gwallt
• Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
• Lliwio ac ysgafnhau gwallt
• Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol
• Pyrmio a niwtraleiddio gwallt
Bydd gofyn i chi hefyd wella eich sgiliau siarad Cymraeg ar gyfer y gweithle.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol ac allanol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad parhaus yn ystod y cwrs
  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Portffolio o dystiolaeth
  • Arholiad ar-lein

Mae gyrfaoedd y dyfodol yn cynnwys triniwr gwallt/steilydd cymwys gyda’r nod o symud i rôl fwy technegol neu oruchwyliol o fewn y diwydiant neu symud ymlaen i Lefel 3 Trin Gwallt (os byddwch yn cwblhau rhaglen Lefel 2).

  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Cit trin gwallt - mae hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol y bydd eu hangen arnoch yn ystod y cwrs ac i'r dyfodol - £399
  • Gwisg trin gwallt - £32/£58
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy trin gwallt o £30 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 1
  • Bydd angen i chi dalu ffi gweithdy trin gwallt o £55 bob blwyddyn cyn i chi ddechrau cwrs Lefel 2
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

,

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 07/11/2023
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close