Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Cyfrifiadureg

Cyfrifiadureg

Cyfrifiadureg

Dyn yn edrych ar dabled ddigidol o flaen rac gweinydd rhwydwaith.

Cyfrifiadureg Lefel-A CBAC

Technoleg Gwybodaeth yw un o’r diwydiannau byd-eang sy’n tyfu gyflymaf ac sy’n ehangu ac yn esblygu’n gyson. Mae’r twf cyflym hwn wedi arwain at alw mawr am unigolion a all gynhyrchu technolegau yfory.

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Bydd angen i ddysgwyr ar y cwrs hwn feddwl yn greadigol, yn arloesol, yn ddadansoddol, yn rhesymegol ac yn feirniadol. Byddwch hefyd angen y gallu i ddadansoddi problemau mewn termau cyfrifiadurol trwy brofiad ymarferol o ddatrys problemau o’r fath, gan gynnwys ysgrifennu rhaglenni i wneud hynny.

Mae sgiliau mathemategol yn rhan greiddiol o’r Lefel-A Cyfrifiadureg hon.

  • Five GCSEs at grade C or above (may include one relevant equivalent) to include English Language/First Language Welsh and Mathematics
  • English Language/Literature/First Language Welsh grade B and Maths/Numeracy grade B
  • Please check the AS Level Options Grid to see if this subject fits into your chosen programme
  • Each application is considered on individual merit
  • Entry is subject to attending a course meeting or informal interview

Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.

  • Successful completion of relevant programme (including skills) and decision from progression board meeting
  • Each application is considered on individual merit

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu dealltwriaeth o, a’r gallu i gymhwyso, egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifiadureg, gan gynnwys haniaethu, dadelfennu, rhesymeg, algorithmau a chynrychioli data.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi datblygu’r gallu i fynegi’r cyfleoedd unigol (moesol), cymdeithasol (moesegol), cyfreithiol a diwylliannol a risgiau technoleg ddigidol.

Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:

  • Hanfodion cyfrifiadureg
  • Rhaglennu ymarferol i ddatrys problemau
  • Rhaglennu a datblygu systemau
  • Pensaernïaeth gyfrifiadurol, data, cyfathrebu a chymwysiadau
  • Datrysiad wedi’i raglennu I broblem

Mae dysgwyr hefyd yn cwblhau Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch ac mae gofyn iddynt ddatblygu eu sgiliau hanfodol (sgiliau cyfathrebu/rhifedd a digidol). Bydd dysgwyr hefyd yn mynychu tiwtorial grŵp wythnosol.

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
  • pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg

Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.

Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk

Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.

Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:

Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd

Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.

Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.

Gall dysgwyr gael y dewis o gwblhau elfennau o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.

  • Written examination
  • Online examination
  • Completion of a final major project

Gall y cwrs hwn arwain at ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Dadansoddwr Cymwysiadau, Datblygwr Cymwysiadau, Dadansoddwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Data, Gweinyddwr Cronfeydd Data, Dadansoddwr Cyfrifiadurol Fforensig, Dylunydd Gêm, Datblygwr Gemau, Rheolwr Systemau Gwybodaeth, TG Ymgynghorydd, Peiriannydd Meddalwedd, Dadansoddwr Systemau, Dylunydd UX, Dylunydd Gwe, Datblygwr Gwe.

Os ydych yn ystyried astudio ar lefel gradd yn dilyn y cwrs hwn ewch i wefannau’r prifysgolion neu UCAS (University Central Admissions Service) www.ucas.com i wirio unrhyw ofynion mynediad.

  • Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
  • Textbooks - you will be told about any specific items before you start the course, most textbooks are available to loan from the college library or online libraries
  • It would be beneficial, but not essential, to bring your own device/laptop to support your studies
  • You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Hyd:

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 18/11/2025
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close