Gosodiadau Trydanol

Gosodiadau Trydanol
Diploma Lefel 3 EAL mewn Gosodiadau Trydanol (9331)
Os ydych chi wedi cwblhau eich cymhwyster Lefel 2, a heb brentisiaeth eto, ac yn barod am yr her nesaf, dyma’r cwrs i chi!
Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno dilyn llwybr gyrfa o fewn y sector trydanol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ymarfer a chael eich asesu mewn amgylchedd diogel gan roi gwybodaeth ymarferol i chi am systemau gwifrau yn ogystal â’r theori berthnasol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau i chi ddod yn Drydanwr/Peiriannydd Trydanol cymwys.
Bydd angen i ddysgwyr gwblhau’r unedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y gweithle os ydynt am ennill statws Trydanwr Cymeradwy’r Cyd-Fwrdd Diwydiant (JIB).
Gall cyllid Cyfrif Dysgu Personol (PLA) fod ar gael ar gyfer y cwrs hwn (yn amodol ar gymhwysedd). Edrychwch ar y wybodaeth am gyllid PLA neu cysylltwch â central@colegsirbenfro.ac.uk
Beth yw'r gofynion mynediad?
- There is normally no direct entry to this course, you would need to progress from the successful completion of previous level in this subject area or similar
Os ydych wedi ennill eich cymwysterau y tu allan i’r DU byddwn yn defnyddio ECCTIS i wirio eu cyfwerthedd â chymwysterau’r DU. Lanlwythwch dystiolaeth o’ch cymwysterau fel rhan o’r broses ymgeisio.
Myfyriwr cyfredol - beth yw'r gofynion mynediad?
- Successful completion of relevant Level 2 programme (including skills) and decision from progression board meeting
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r unedau i’w hastudio yn cynnwys:
- Deddfwriaeth Amgylcheddol
- Cynllunio a Dylunio Gosodiadau
- Sgiliau Crefft Gosod
- Arolygu, Profi a Chomisiynu
- Canfod diffygion
- Rheoliadau Gwifrau IET
A fydd angen i mi astudio sgiliau Saesneg a Mathemateg ychwanegol?
Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:
- y cwrs rydych chi’n ei ddilyn yn y Coleg
- pa raddau a gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Iaith Saesneg
Isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech chi fod yn ei ddilyn yn y Coleg.
Rhaglenni llwybr dilyniant, seiliedig ar waith o fewn y Gyfadran Amgylchedd Adeiledig – byddwch chi’n astudio Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Rhaglen Twf Swyddi Cymru (JGW+) – bydd wedi’i hamserlennu mewn sesiynau llythrennedd a rhifedd. I drafod y cyfle i fynychu rhaglen ailsefyll TGAU, yn ogystal â’u hamserlen JGW+, cysylltwch â skills@pembrokeshire.ac.uk
Rhaglenni Academi Sgiliau Bywyd – bydd gennych gyfleoedd i uwchsgilio mewn Saesneg a Mathemateg trwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) / Century neu fynychu dosbarthiadau Sgiliau Hanfodol.
Pob cwrs arall a’r rhai sydd wedi symud ymlaen trwy’r llwybr dilyniant mewnol:
Rhaglen Cyrchfan Uwchsgilio – sesiwn awr a hanner yr wythnos yn datblygu sgiliau ymchwil hanfodol, meddwl beirniadol, a thechnegau ysgrifennu academaidd, gan gefnogi llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a sgiliau cyflogadwyedd
Rhaglen Ailsefyll TGAU blwyddyn mewn TGAU Mathemateg Haen Ganolradd (cyfrwng Cymraeg neu Saesneg) / TGAU Iaith Saesneg
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn neu ddwy yn y pwnc/pynciau gofynnol – Blaenoriaeth y rhaglen hon (llwybr Sylfaen Mathemateg ar gyfer Mathemateg) yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen ailsefyll haen ganolradd blwyddyn o hyd.
Cwrs uwchsgilio cyn TGAU blwyddyn mewn mathemateg – Blaenoriaeth y rhaglen hon yw meithrin sgiliau a gwybodaeth sylfaenol, er mwyn paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i’r rhaglen Mathemateg Sylfaen.
Allaf i wneud y cwrs hwn yn Gymraeg?
Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i gwblhau asesiad cwrs/aseiniadau neu elfennau o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth arall sydd ar gael i chi.
Sut y byddaf yn cael fy asesu?
- Continuous assessment during the course
- Practical assessment during the course
- Practical examination
- Online examination
Beth alla i ei wneud nesaf?
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Oes angen i mi ddod â /prynu ac offer?
- Stationery - you will be told about any specific items before you start the course
- Technical drawing equipment - you will be told about any specific items before you start the course
- A scientific calculator
- Electrical work trousers - £25
- Electrical safety boots/shoes - £14/£39
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
A oes unrhyw gostau ychwanegol?
- Personal Learning Account (PLA) funding may be available for this course (subject to eligibility). Click here for more information or contact central@pembrokeshire.ac.uk
- You may be eligible for funding. Find out more on our student finance page
Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.
Gwybodaeth ychwanegol
Lefel: |
---|
Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.
Cyfryngau Cymdeithasol
Llyfrynnau Diweddaraf