Ydych chi’n caru anifeiliaid a’r awyr agored? Yna rydych chi yn y lle iawn! Gallwn eich helpu i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o rolau, gan gynnwys dod yn drwsiwr anifeiliaid anwes, cynorthwyydd milfeddygol neu unrhyw nifer o yrfaoedd amaethyddol.
Mae gennym bartneriaethau cryf â chwmnïau ledled y sir sy’n caniatáu i’n myfyrwyr ennill profiad gwaith gwerthfawr fel rhan o’u cymhwyster. Bydd myfyrwyr gofal anifeiliaid yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau fel Folly Farm a meddygfeydd milfeddygol lleol tra bydd dysgwyr cefn gwlad yn ennill sgiliau go iawn yn y gwaith gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Sir Benfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn ddiweddar rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau gyda’n myfyrwyr gofal anifeiliaid Lefel 1 a Lefel 2 wedi’u lleoli yng Nghanolfan Dysgu John Burns yn Withybush tra bydd ein myfyrwyr Lefel 3 wedi’u lleoli yn Folly Farm (darperir cludiant o’r Coleg i bob un o’r lleoliadau hyn).
Showing all 8 results
-
Amaethyddiaeth
Mae’r cymhwyster amaethyddiaeth hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn ffermio neu reoli fferm, boed yn gwbl newydd i amaethyddiaeth neu’n adeiladu ar wybodaeth a sgiliau presennol.
-
Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i weithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.
-
Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i weithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.
-
Cefn Gwlad a’r Amgylchedd
Mae’r cymhwyster amaethyddiaeth hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn ffermio neu reoli fferm. Efallai eich bod yn gwbl newydd i amaethyddiaeth neu efallai bod gennych rywfaint o wybodaeth neu sgiliau sydd eisoes yn bodoli.
-
Dyfodol Llwyddiannus
Cwrs i archwilio’r awyr agored, gwella lles a datblygu sgiliau cyflogaeth ac astudio.
-
Gofal Anifeiliaid
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant anifeiliaid ac sydd eisiau dysgu am ofal sylfaenol a rheolaeth anifeiliaid.
-
Gofal Anifeiliaid – Clwb Sadwrn
£55.00Mae gennym bob math o anifeiliaid hardd, anwesol a hynod ddiddorol a fydd yn cael eu cyflwyno i’ch plentyn 8 i 16 oed. Yn bennaf oll rydym am iddynt ddysgu a chael hwyl.
-
Rheoli Anifeiliaid
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y sector gofal anifeiliaid yn amrywiol ac yn tyfu ac yn esblygu’n barhaus. Mae’r RSPCA yn amcangyfrif bod tua 20 miliwn o anifeiliaid anwes yn y DU ar hyn o bryd (ac eithrio pysgod!).