Coleg Sir Benfro, Merlins Bridge, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1SZ

Blog

Busnes

Busnes

Business&Tourism Level 2

Tystysgrif Lefel 2 mewn Business – Oxford & Cambridge ac RSA (OCR) Cambridge Technicals (CTEC)

Ydych chi’n breuddwydio am ddod yn gyfrifydd, yn gyfreithiwr, yn rheolwr busnes neu’n ymgynghorydd busnes? Ydych chi wedi breuddwydio am weithio mewn cysylltiadau gwesteion, mewn marchnata, neu hyd yn oed reoli digwyddiad mawr? Bydd y cwrs hwn yn garreg gamu ar eich taith i’ch cyrchfan dymunol.

DYSGWYR:
ID: 34258

Ydy'r cwrs hwn yn iawn i mi?

Mae hon yn rhaglen newydd gyffrous sy’n gyfuniad o ddau gwrs canmoliaethus.

Mae byd busnes a thwristiaeth yn newid yn gyflym. Byddwch yn dysgu am fenter busnes, meysydd swyddogaethol busnes, yn ogystal ag ymwybyddiaeth ariannol, sut i gwblhau ymchwil marchnad, a marchnata busnes. Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi gyda datblygiad eich sgiliau academaidd, a datblygiad eich sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn fyd-eang eu heisiau gan gynnwys: gweithio mewn tîm, defnyddio menter i ddatrys problemau busnes, cyfathrebu a gwaith tîm.

Trwy amrywiaeth o weithgareddau asesu ac un arholiad, byddwch yn ymchwilio i fusnesau ar gwmpas lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddysgu beth yw byd busnes.

Cynhelir y cwrs blwyddyn hwn dros bedwar diwrnod yr wythnos yn y coleg trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Yn ogystal â hyn, cewch gyfle i wneud profiad gwaith ym myd busnes. Fel rhan o’r cwrs, bydd gofyn i chi gwblhau 45 awr o brofiad gwaith.

Mae gweithgareddau ymarferol yn nodwedd bwysig o’r cwrs a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymweliadau â diwydiant pan fo’n briodol, a fydd yn cynnwys astudio busnesau a redir yn lleol/cenedlaethol (nid yw cost y teithiau hyn wedi’i chynnwys yng nghost y cwrs) .

  • Tri chymhwyster TGAU gradd D neu uwch (gall gynnwys un cyfwerth perthnasol) i gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd
  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod unigol
  • Mae mynediad yn amodol ar fynychu sesiwn gwybodaeth cwrs neu gyfweliad anffurfiol
  • Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus (gan gynnwys sgiliau) a phenderfyniad o gyfarfod y bwrdd dilyniant
  • TGAU Saesneg Iaith/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd D neu uwch
  • TGAU Mathemateg/Rhifedd gradd D neu uwch
  • neu dystiolaeth o welliant o TGAU/au mewnol

Mae’r cwrs hwn yn ymchwilio i feysydd swyddogaethol busnes. Bydd yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth i chi yn ymwneud â gwahanol fathau o fusnes ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Dyma’r unedau sy’n cael eu cynnwys:

  • Pobl mewn Sefydliadau: Bydd yr uned hon yn datblygu eich sgiliau rheoli gyrfa ac ar yr un pryd yn eich helpu i ddeall gwahanol rolau swydd, adrannau a strwythurau rheoli mewn busnes. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sgiliau cyflogadwyedd a chynllunio eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid: Byddwch yn deall pwysigrwydd diwallu anghenion cwsmeriaid a gwahanol fathau o gyfleusterau a gwasanaethau. Byddwch yn dangos sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a sut i ddelio â sefyllfaoedd heriol.
  • Marchnata Gweledol – Yn yr uned hon, byddwch yn dysgu am weithgareddau marsiandïaeth weledol mewn busnesau manwerthu. Byddwch yn darganfod beth mae marsiandwyr gweledol yn ei wneud a sut mae eu rôl yn amrywio yn dibynnu ar faint y busnes manwerthu a’r is-sector y mae’n gweithredu ynddo. Byddwch yn dysgu am yr offer a’r technegau y mae marsiandwyr gweledol yn eu defnyddio i greu arddangosiadau cynnyrch deniadol.
  • Trefnu Digwyddiad: Yn yr uned hon byddwch yn archwilio gwahanol fathau o ddigwyddiadau a phwysigrwydd digwyddiadau a chynadleddau i economi’r DU. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn trefnu digwyddiad ac yn adolygu eu cyfraniad.
  • Sefydliadau Busnes: Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall gwahanol nodau ac amcanion sefydliadau busnes mewn gwahanol sectorau o’r economi, gan gynnwys y sector preifat, cyhoeddus a dielw. Byddwch hefyd yn dod i ddeall y prif feysydd swyddogaethol mewn sefydliadau busnes, er enghraifft marchnata neu weinyddu, a’r cysylltiadau rhwng y sefydliadau hyn ac asiantaethau allanol.
  • Cyllid Busnes ‘Yr Hanfodion’: Mae busnes yn ymwneud â gwneud arian. Yn syml, mae hyn yn golygu cael mwy o arian i mewn nag y mae’r busnes yn ei wario. Bydd yr uned hon yn rhoi’r wybodaeth ariannol sylfaenol sydd ei hangen arnoch ar gyfer pob agwedd ar fusnes a bydd yn eich galluogi i ddefnyddio dwy o’r technegau rhagweld mwyaf poblogaidd.
  • Profiad Gwaith: Byddwch yn paratoi ar gyfer lleoliad profiad gwaith ac yn ymgymryd ag ef. Ar gyfer datblygiad pellach, byddwch yn adolygu eu perfformiad eu hunain ac yn cynhyrchu cynllun gweithredu.
  • Diwydiant Teithio a Thwristiaeth y DU: Yn yr uned hon byddwch yn deall strwythur diwydiant teithio a thwristiaeth y DU yn ogystal â’r gwahanol fathau o sefydliadau. Byddwch yn deall y ffactorau yn natblygiad diwydiant teithio a thwristiaeth y DU a chyfleoedd swyddi perthnasol yn y sector.

Bydd ffocws ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, gan gynnwys ailsefyll TGAU. Bydd gofyn i chi fynychu tiwtorialau hefyd.

Gall pob modiwl dewisol newid

Efallai y bydd angen i chi astudio cwrs sgiliau ychwanegol yn dibynnu ar:

  • y cwrs yr ydych yn ei astudio yn y Coleg
  • pa raddau gawsoch chi yn eich TGAU Mathemateg a/neu Saesneg Iaith

Cliciwch isod i ddarganfod pa gwrs sgiliau y gallech fod yn ei ddilyn yn y Coleg

Mae dysgwyr yn gallu cwblhau naill ai’r cymhwyster llawn neu rai unedau neu elfennau trwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog. Ewch i’n tudalen Cymraeg yn y Coleg i ddarganfod beth sydd ar gael i chi.

  • Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
  • Gwaith aseiniad
  • Tystiolaeth gweithle

Gall y cwrs hwn agor ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys: Rheolwr Hyfforddai, Arweinydd Tîm, Cynorthwyydd Marchnata, Rheolwr Elusen, Rheolwr Digwyddiad, Ymgynghorydd Gwerthu, Swyddog Adnoddau Dynol, Codwr Arian, Dadansoddwr Data, Cynorthwyydd Manwerthu.

Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel 2 hwn yn llwyddiannus efallai y bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 arall yn y Coleg. Fel arall, gallai dysgwyr geisio cyflogaeth neu brentisiaeth mewn nifer o sectorau gan gynnwys: manwerthu, lletygarwch, bancio neu farchnata.

Ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o fusnesau gan gynnwys:

  • Cyfrifyddiaeth
  • Marchnata
  • Bancio
  • Cyllid
  • Gweinyddiaeth
  • Rheoli digwydg
  • Datblygiad busnes
  • Rheoli busnes
  • Gwasanaeth cwsmer
  • Cychwyn busnes
  • Y Gyfraith
  • Deunydd ysgrifennu - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs
  • Gwerslyfrau - byddwch yn cael gwybod am unrhyw eitemau penodol cyn i chi ddechrau'r cwrs, mae'r rhan fwyaf o werslyfrau ar gael i'w benthyg o lyfrgell y coleg neu lyfrgelloedd ar-lein
  • Bydd angen i chi ddod â'ch dyfais/gliniadur eich hun ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch yma i ddarganfod mwy
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

  • Dim ffi dysgu
  • Rydym yn hepgor y Ffi Weinyddol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25
  • Mae’n bosibl y bydd tripiau neu’n ddewisol fel rhan o’r cwrs hwn
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael cyllid. Darganfyddwch fwy ar ein dudalen cyllid myfyrwyr

Mae unrhyw gostau uchod yn rhai bras a gallant newid.

Gwybodaeth ychwanegol

Lefel:

Modd:

Elfennau Dysgu Ar-lein?

Oes

Academi Chwaraeon: Tra byddwch ar y cwrs hwn efallai y byddwch yn gallu ymuno â’n Hacademi Chwaraeon, os oes gennych chi dalent am chwaraeon, darganfyddwch beth rydyn ni’n ei gynnig ar ein tudalen Academi Chwaraeon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Llyfrynnau Diweddaraf

Wedi’i ddiweddaru ddiwethaf: 30/05/2024
Ymwadiad:
Mae’r Coleg yn cymryd pob cam rhesymol i ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau addysgol a ddisgrifir uchod. Mae’r manylion yn gywir ar adeg eu golygu ond gallant newid heb rybudd ymlaen llaw. Ni fydd cyrsiau’n rhedeg os yw niferoedd myfyrwyr yn annigonol. Mae gan y Coleg yr hawl i wrthod mynediad i unigolion ar gyrsiau o dan rai amgylchiadau. Gellir rhoi gwybod i ddarpar fyfyrwyr am ddewisiadau eraill mwy addas, os yn briodol. Y gofynion mynediad a nodir yw’r rhai y mae eu hangen fel arfer i ddilyn y rhaglen astudio.
Shopping cart close